1. Hafan
  2. Lle mae’n brifo
  3. Poen Gwddf

Poen Gwddf

Mae poen gwddf yn symptom cyffredin sy’n gysylltiedig â’r cyhyrau, cymalau ac esgyrn.

Rydym wedi cynllunio dull tri cham i’ch helpu i ddeall eich opsiynau a’ch annog i feddwl am yr holl bethau a allai fod yn effeithio ar eich problem.

Ble mae’n cael ei deimlo?

Mae poen gwddf yn gyffredin iawn ymhlith plant a phobl ifanc.  Gall fod yn ddifrifol ar y dechrau gan eich rhwystro rhag gwneud eich gweithgareddau arferol. Gall poen gwddf ddechrau wrth wneud gweithgareddau bob dydd neu gallai deimlo’n waeth wrth symud.

Pam mae’n digwydd?

Gall poen gwddf fod o ganlyniad i lawer o ffactorau. Gall gael ei achosi gan anaf fel chwiplach neu gwymp neu gall fod oherwydd salwch. Yn fwyaf cyffredin, gall poen gwddf fod o ganlyniad i osgo gwael, yn enwedig wrth astudio neu ddefnyddio technoleg llaw fel ffonau neu gyfrifiaduron llechen lle mae llawer o amser yn cael ei dreulio yn edrych i lawr neu aros yn yr un safle. Gall cysgu mewn safle lletchwith hefyd achosi poen yn y cyhyrau ac anhawster symud yn y bore.

Pryd ddylwn i fynd i weld y meddyg teulu?

Os ydych chi’n poeni nad yw’ch babi’n gallu symud ei wddf i’r ddwy ochr yn llawn neu os oes ganddo unrhyw ddarnau fflat ar ei ben sy’n ei atal rhag symud ei wddf yn llawn, ewch i weld eich meddyg teulu neu ymwelydd iechyd cyn gynted â phosibl.

Mae’n bwysig i’ch plentyn weld meddyg teulu neu weithiwr iechyd proffesiynol os yw’n profi poen yn ei wddf, yn enwedig os oes unrhyw un o’r canlynol yn berthnasol:

  • Hanes o anaf neu drawma
  • Pinnau bach neu newidiadau i deimlad yn y coesau neu freichiau
  • Gwendid yn y coesau neu freichiau
  • Poen difrifol sydd ddim yn newid
  • Teimlo’n sâl neu’r plentyn yn edrych yn sâl
  • Twymyn
  • Poen sydd ddim yn gysylltiedig â symud y gwddf
  • Dan 5 mlwydd oed
  • Pen tost
  • Pendro
  • Cyfog/chwydu
  • Newidiadau i’r golwg
  • Newidiadau i’r clyw
  • Newidiadau i symudiad y gwddf
  • Poen gyda’r nos
  • Colli pwysau

Os yw’ch plentyn yn cwyno am boen yn y gwddf a’i fod hefyd yn dweud nad yw’n hoff o oleuadau llachar, ei fod yn teimlo’n sâl, bod ganddo dwymyn neu dymheredd uchel neu frech sydd ddim yn diflannu o dan wydr, ceisiwch sylw meddygol brys.

A fydd yn gwella?

I’r rhan fwyaf o blant a phobl ifanc, yr ateb yw ‘bydd’, bydd y boen yn gwella gyda newidiadau syml fel gwella osgo a symud yn amlach. I eraill efallai y bydd yn cymryd ychydig bach yn hirach. Anaml iawn y bydd angen asesiad a thriniaeth bellach.

Beth gallaf ei wneud i’m helpu i/fy mhlentyn?

Mae rhai o’r pethau pwysicaf y gallwch eu gwneud i helpu eich poen gwddf yn gysylltiedig â’ch dewisiadau ffordd o fyw a’ch iechyd cyffredinol.  Rydym wedi cynnwys rhai dolenni defnyddiol i’ch helpu.

Mae’r wybodaeth yng Ngham Dau yn esbonio’r ffactorau a all effeithio ar ddifrifoldeb ac effaith symptomau cyhyrau, cymalau ac esgyrn.

Mae Cam Dau yn esbonio’r ffactorau a allai fod yn cyfrannu at eich sefyllfa.

Mae Cam Tri yn esbonio cyngor hunanreoli ar yr hyn y gallwch ei wneud i helpu eich hun.

Dysgwch fwy am:

Ochr yn ochr â’r cyngor hunanreoli yng Ngham Tri, gall rhai ymarferion cyffredinol ar gyfer poen gwddf fod yn ddefnyddiol i gefnogi’ch adferiad graddol i symudiad a gweithrediad arferol.

Beth gellir ei wneud i’m helpu i/fy mhlentyn?

Efallai y bydd angen asesiad o’ch problem a’ch triniaeth os nad yw’r cyngor hunanreoli yng Ngham Tri yn helpu.  Ystyriwch ofyn am gymorth pellach. 

Os ydych chi’n dal i bryderu am y symptomau rydych chi’n eu profi ac yn ansicr beth i’w wneud cysylltwch â’ch meddyg teulu neu ffoniwch GIG Cymru 111.

Gwybodaeth
Menu