Nid yw poen parhaus yn deillio o ddifrod meinwe neu anaf lleol. Gellir ei ddisgrifio fel poen sy’n parhau ar ôl i anaf wella neu ar ôl i salwch gael ei ddatrys.
Mae poen parhaus yn boen sydd wedi para mwy na 3 mis, sef y cyfnod adfer arferol ar ôl anaf neu salwch.
Gall ddechrau yn dilyn problem benodol, ond weithiau mae’n digwydd am ddim rheswm. Gall ddigwydd ochr yn ochr â chyflwr arall rydych eisoes yn byw gydag ef.
Mae’r fideo canlynol yn rhoi trosolwg o’r gwahaniaeth rhwng poen acíwt a pharhaus. Understanding Pain – What to do about it in less than five minutes:
Mae poen parhaus yn brofiad go iawn. Gellir teimlo poen parhaus mewn rhan benodol o’r corff, fel y cefn, y coesau neu’r gwddf, ond gellir ei deimlo hefyd ym mhob rhan o’r corff. Mae gan bobl brofiadau gwahanol o boen parhaus – gall fod yn achlysurol neu’n barhaus, gall godi’n hawdd neu symud o amgylch y corff.
Mae poen parhaus yn digwydd lle mae’r ymennydd yn drysu ac yn methu â dehongli’r signalau y mae’n eu derbyn gan y corff yn iawn, gan ddod yn or-effro i unrhyw deimladau a’u dehongli fel poen. Mae poen yn system rybuddio neu ‘larwm’, wedi’i actifadu gan y system nerfol. Mae’n ‘amddiffynnwr’ – ffordd y corff o’ch cael chi i wneud rhywbeth. Ar ôl anaf, mae’r larwm hwn yn ddefnyddiol gan ei fod yn rhoi amser i chi wella. Ond weithiau mae larymau’n dal i ganu yn hir ar ôl i chi wella, ac mae rhai’n canu am ddim rheswm. Gall poen parhaus yn aml ddatblygu o ‘larwm’ y system nerfol yn mynd yn rhy sensitif, fel larwm car sy’n seinio pan fydd rhywun yn cyffwrdd yn ysgafn â’r car.
Mae eich ymennydd yn dysgu i greu poen gan ei fod yn meddwl bod angen i chi amddiffyn eich corff. Pan fyddwch yn amddiffyn eich corff, rydych yn tueddu i symud llai. Mae hyn yn arwain at gylch negyddol o gymalau stiff a chyhyrau gwannach a all hefyd greu poen. Gall bod yn llai actif gael effaith ar eich gallu i gysgu a gall arwain at gynnydd yn eich pwysau. Nid yw poen yn ymwneud â difrod yn unig. Mae llawer mwy na meinweoedd eich corff yn dylanwadu ar y system larwm. Gall llawer o ffactorau yn eich bywyd chwarae rhan, fel sut rydych chi’n meddwl am boen, eich emosiynau a’ch ffordd o fyw.
Gall yr holl bethau hyn gael effaith negyddol ar eich hwyliau, ac arwain at orbryder a meddyliau negyddol am y dyfodol. Gall gael effaith ar ein lefelau straen, ein hymateb imiwnedd a’n gallu i weithio. Gall gael effaith negyddol gref ar ein teulu a’n ffrindiau hefyd. Gelwir hyn yn ‘gylch poen’.
Nid oes unrhyw brofion ar gyfer poen parhaus. Nid yw profion fel sganiau, pelydrau-x a phrofion gwaed yn ddefnyddiol oni bai bod angen eithrio problemau penodol. Gall poen parhaus fod yn anghyfforddus iawn, yn enwedig wrth wneud gweithgareddau nad ydych wedi arfer eu gwneud. Mae’n bwysig cofio, er y gallech fod mewn llawer o boen, nad yw’n golygu bod gennych broblem sylfaenol ddifrifol gyda meinweoedd eich corff. Yn yr un modd, nid yw poen parhaus yn arwydd eich bod yn niweidio eich corff.
Mae llawer o bobl eisoes wedi cael llawer o brofion, ymchwiliadau a thriniaethau meddygol neu lawfeddygol ac yn gwybod nad yw poen hirdymor bob amser yn diflannu. Un o’r allweddi i fyw’n dda er gwaethaf poen yw hunanreolaeth. Y newyddion da yw bod llawer o ffyrdd y gallwch wneud newidiadau i helpu i reoli eich poen, cael mwy o reolaeth a gwella ansawdd eich bywyd.
Rydym wedi canfod bod pethau y gellir eu gwneud i newid faint o sylw y mae eich ymennydd yn ei dalu i’r signalau poen. Efallai na fydd yn bosibl cael gwared ar y boen yn llwyr ond gall pobl ‘droi’r sŵn i lawr’ ar eu signalau poen. Yn aml, gwneir hyn drwy ailhyfforddi eich ymennydd drwy ddangos iddo eich bod yn gallu cwblhau gweithgaredd heb achosi difrod.
Beth gellir ei wneud i’m helpu i/fy mhlentyn?
Gall newidiadau bach wneud gwahaniaeth mawr i’ch iechyd corfforol a meddyliol.
- Byddwch yn actif a gwnewch ymarfer corff. Dewiswch weithgaredd rydych chi’n ei fwynhau ac sy’n hawdd ei wneud. Gall cerdded, nofio, beicio, symud i gerddoriaeth neu ymarfer corff gartref oll helpu gyda ffitrwydd.
Mae gan Wefan y GIG rai ymarferion ysgafn a hawdd eu dilyn ac amrywiaeth o fideos ymarfer corff i bobl o bob lefel o ffitrwydd a gallu yn y stiwdio ffitrwydd:
Ymarferion byw’n dda y GIG
Stiwdio ffitrwydd y GIG
- Dysgwch i ymlacio, a all helpu gyda’r straen o fyw gyda phoen.
- Cynlluniwch eich gweithgareddau dyddiol ac ewch ar eich cyflymder eich hun.
- Gwnewch amser i wneud y pethau rydych chi’n eu mwynhau.
- Datblygwch strategaethau ymdopi.
Diddordeb mewn dysgu mwy?
Mae deall poen yn bwysig gan y gall newid faint mae pethau’n brifo a faint y gall eich corff ei wneud.
Mae Tame the Beast yn fideo byr, animeiddiedig sy’n esbonio poen
Mae Retrain Pain Foundation yn gyfres o fideos munud o hyd sy’n trafod llawer o bynciau gwahanol.
The Pain Toolkit – Pain Self Management by Pete Moore
Mae Live Well With Pain | Living Well Despite Your Pain yn wefan i bobl sy’n byw gyda phoen. Mae’n cynnwys gwybodaeth, adnoddau a llyfrynnau defnyddiol y gellir eu hargraffu. Mae’r ’10 Cam’ yn eich helpu i ddysgu sgiliau i’ch arwain yn ôl at fyw’n dda, er gwaethaf poen.
Beth gellir ei wneud i’m helpu i/fy mhlentyn?
Ar y wefan ‘Melo Cymru’, fe welwch:
- Sawl cwrs, gan gynnwys cwrs Rheoli Straen 6 wythnos am ddim a fydd yn eich dysgu i reoli eich straen mewn 6 cham hawdd.
- Adnoddau i’ch helpu i ofalu am eich lles meddyliol. Mae’r rhain yn cynnwys Apiau, Sain a Fideo a Llyfrau a Thaflenni.
Melo Cymru – Adnoddau Lles Meddyliol, Cyrsiau a Chyngor Gwent Cymru
Mae RhAG Cymru (Rhaglenni Addysg i Gleifion) yn cynnal amrywiaeth o gyrsiau hunanreoli iechyd a lles drwy Zoom, gan gynnwys Byw gyda Phoen Cronig, y gallwch gadw lle arno.
Meddyginiaethau Poen – siaradwch â’ch meddyg teulu neu fferyllydd.
ENGLISH





