BWYD A MAETH i blant a phobl ifanc

Mae diet cytbwys yn bwysig ar gyfer twf a datblygiad iach, yn ogystal â gwella yn dilyn salwch neu anaf.  Mae annog eich plentyn i fwyta amrywiaeth eang o fwydydd yn dylanwadu ar arferion bwyd iach pan fyddant yn hŷn.

Nid oes bwyd da na bwyd drwg. Cydbwysedd cyffredinol deiet yw’r hyn sy’n cyfrif ac yn y cyfrannau cywir.Fodd bynnag, mae rhai bwydydd yn fwy tebygol o gyfrannu at iechyd nag eraill.

Am fwy o wybodaeth, gweler y canllaw isod a’r fideo:

Bwyta’n dda:

  • Seliwch brydau bwyd ar fwydydd carbohydrad â llawer o starts
  • Bwytwch 5 dogn o ffrwythau a llysiau y dydd
  • Bwytwch 3 dogn o gynnyrch llaeth a dewisiadau amgen y dydd ​
  • Bwytwch o leiaf 2 (3 os ydych yn llysieuwr) dogn o ffa, corbys, pysgod, wyau, cig a phroteinau eraill y dydd
  • Dewiswch olewau annirlawn a thaeniadau, a defnyddiwch ychydig iawn ohonynt ar y tro
  • Peidiwch â bwyta llawer iawn o fwydydd sy’n uchel mewn braster a siwgr  ​
  • Peidiwch ag anghofio hylifau (argymhellir 6-8 gwydraid y dydd)

Sut mae’r canllaw bwyta’n dda yn berthnasol yn y blynyddoedd cynnar?

  • Nid yw’r Canllaw Bwyta’n Iach yn gwbl berthnasol i blant o dan 2 oed gan fod ganddynt anghenion maethol penodol  ​
  • O 2 flwydd oed, gall plant lynu at argymhellion dietegol y DU y gellir dod o hyd iddynt yn y Canllaw Bwyta’n Iach. Argymhellir dull hyblyg yn hyn o beth

Awgrymiadau cyffredinol:

Patrymau Prydau

Mae gofynion calorïau’r Canllaw Bwyta’n Iach yn berthnasol i oedolion. Mae cadw at batrwm rheolaidd o ran prydau yn bwysicach i blant h.y. 3 phryd bwyd a 2-3 byrbryd y dydd.

Ffrwythau a llysiau

Mae’n bwysig bod plant yn bwyta amrywiaeth o ffrwythau a llysiau bob dydd er mwyn cael fitaminau, mwynau a ffibr.

Nid yw ffrwythau sych yn addas fel byrbryd i blant oherwydd faint o siwgr rhydd sydd ynddynt, ond gellir eu cynnwys mewn prydau bwyd.  ​

Anelwch at 5 dogn y dydd, mae un dogn yn 40g.

Carbohydradau â llawer o startsh a Ffibr

Dylai plant fwyta bwyd â starts ynddo gyda phob pryd bwyd a chydag o leiaf 1 byrbryd y dydd. ​

Dylai plant dan 5 oed gael cymysgedd o fathau gwyn a grawn cyflawn. Gan fod y bwydydd hyn yn eu llenwi fwy gall ei gwneud yn anoddach i blant ddiwallu eu hanghenion egni. ​

Cynnyrch llaeth a dewisiadau amgen

Dylid cynnig tri dogn o gynnyrch llaeth y dydd i blant. 

Dylid rhoi cynnyrch llaeth braster llawn i blant dan 2 oed ond gallant gael llaeth hanner sgim os ydynt yn bwyta ac yn tyfu’n dda.

Gall plant rhwng 2 a 5 oed gael cynnyrch llaeth braster is a llaeth hanner sgim os ydynt yn bwyta amrywiaeth o fwydydd ac yn tyfu ar y gyfradd briodol. ​

Mae llaeth sgim ac 1% yn anaddas fel prif ddiod i blant dan 5 oed. ​

Efallai y bydd rhai plant yn yfed llaeth a diodydd amgen sydd wedi’u gwneud gyda cheirch, soia neu gnau / llaeth. Ar gyfer plant iau na 2 flwydd oed bydd hyn fel arfer yn dilyn trafodaeth gyda gweithiwr iechyd proffesiynol. ​Mae’n bwysig dewis llaeth sydd heb ei felysu sy’n cael ei atgyfnerthu â chalsiwm.

Halen

Mae diet sy’n uchel mewn halen yn gysylltiedig â phwysedd gwaed uwch, a all gynyddu eich risg o glefyd y galon a strôc. ​

Dewiswch frandiau sy’n cynnwys llai o halen a dylech osgoi ychwanegu halen wrth goginio.  ​

Yr argymhellion yw:

  • Ni ddylai plant 1-3 mlwydd oed fwyta mwy na 2g o halen y dydd ​
  • Ni ddylai plant 4 – 6 mlwydd oed fwyta mwy na 3g o halen bob dydd ​

Braster

Y math o fraster y mae’r rhan fwyaf o blant yn bwyta gormod ohono yw ‘braster dirlawn’ sy’n ddrwg o ran iechyd ac sy’n cyfrannu at ordewdra. ​Mae brasterau dirlawn i’w cael yn aml mewn cynhyrchion sy’n deillio o anifeiliaid.

Dewiswch olewau annirlawn a thaeniadau dros frasterau dirlawn.

Mae brasterau annirlawn yn iach os ydym yn bwyta ychydig ohono fe’i ceir yn aml mewn bwydydd sy’n deillio o blanhigion. Mae’r rhain yn dda o ran iechyd y galon ac maent yn cynnwys omega-3.    ​Mae enghreifftiau yn cynnwys pysgod olewog, cnau, hadau, afocados, olew olewydd ac olew blodyn yr haul

Siwgr

Y math o siwgr y mae’r rhan fwyaf o oedolion a phlant yn y DU yn bwyta gormod ohono yw ‘siwgrau rhydd’ sy’n gysylltiedig â’r manteision maethol lleiaf posibl, ceudodau dannedd ac sy’n cyfrannu at ordewdra ymhlith plant. ​

Mae siwgrau rhydd yn siwgr sy’n cael ei ychwanegu mewn unrhyw ffurf, megis melysion, diodydd meddal llawn siwgr, bisgedi ac ati. Mae’n bwysig cyfyngu faint o’r bwydydd hyn yr ydym yn eu bwyta.

Nid oes angen eithrio siwgrau naturiol a geir mewn Ffrwythau, Llysiau a Chynnyrch Llaeth. I gael rhagor o wybodaeth am siwgr rhydd, gwyliwch y fideo canlynol:

Hylifau

Anelwch at yfed tua 6-8 cwpan (100-150ml y cwpan) bob dydd.

Mae dŵr a llaeth yn cyfrif fel hylifau iach. Ni argymhellir yfed te, coffi a diodydd egni. ​

Mae sudd ffrwythau a smwddis hefyd yn cyfrif tuag at faint o hylif y mae plentyn yn ei yfed ond maent yn cynnwys siwgrau rhydd, felly cyfyngwch faint o’r diodydd hyn y maent yn eu hyfed gan geisio cadw at gyfanswm o 150ml y dydd a dylid eu hyfer amser bwyd yn unig.

Key Nutrients

Key Nutrients Welsh

Atchwanegiadau fitamin a mwynau

Argymhellir bod pob baban a phlentyn 6 mis i 5 oed yn cael diferion fitamin bob dydd sy’n cynnwys fitaminau A, C a D, oni bai eu bod fel babanod yn yfed tua 500ml (1 peint) o laeth fformiwla babanod y dydd. Mae hyn yn bwysig hyd yn oed os ydyn nhw’n bwyta’n iach ac yn treulio amser yn yr haul. Mae fitaminau Healthy Start yn ddelfrydol. Gallwch ddarganfod mwy am Healthy Start yma: www.healthystart.nhs.uk/

Meintiau dogn

I gael gwybodaeth am feintiau dogn sy’n briodol i’w hoedran, gweler y canllawiau defnyddiol isod:

Portion Sizes Welsh

Os hoffech gael copi printiedig o’r wybodaeth uchod, defnyddiwch y ddolen hon

Am fwy o wybodaeth am gynnwys plant mewn dewisiadau bwyd iach

Better Health – Healthier Families – Food Facts

British Association of Dietitians – Food Facts

Iachach Gyda’n Gilydd – Cymorth bwydo i chi a’ch teulu 

Gwybodaeth
Menu