Mae’r gwasanaeth orthoteg yn darparu asesiadau a thriniaeth gan gynnwys gosod dyfeisiau orthotig; dyfais allanol y gellid ei defnyddio i osod llwythau i ddylanwadu ar, addasu neu reoli swyddogaethau cyhyrysgerbydol a/neu niwrolegol y corff dynol.

Gellir defnyddio dyfeisiau o’r fath mewn ystod eang o sefyllfaoedd, gan gynnwys problemau sy’n gysylltiedig â rheoli’r traed, y coesau, y breichiau a’r asgwrn cefn. Asesir a chytunir ar nod triniaeth o’r fath ar y cyd â’r Orthotydd a’r claf, fodd bynnag, mae’r nodau cyffredin yn cynnwys:

  • Rheoli poen oherwydd gormod o lwytho annormal
  • Rheoli camweithrediad cyhyrau
  • Darparu ar gyfer camaliniad difrifol/oedema
  • Rheoli’r ystod symudiadau, megis ystod gyfyngol tra bod gwellhad yn digwydd

Rôl yr Orthotydd yw nodi, drwy asesu, y problemau/risg amlwg, nodi a oes angen ‘orthotig’, asesu ffisioleg unigolyn a datblygu a rhagnodi cynllun triniaeth yn ôl y gofyn, a allai gynnwys darparu orthosis.  Bydd yr orthotydd yn cydweithio â’r claf i gytuno ar y nodau ar gyfer triniaeth.  Pan fydd darpariaeth orthotig wedi’i gwneud, efallai y bydd angen trefnu adolygiad, neu fe’ch cynghorir i ail-ddefnyddio’r gwasanaeth ar sail ‘angen’.

Nid yw’r rhestr hon yn gwbl gynhwysfawr, fodd bynnag, fel canllaw cyffredinol gall y mathau o ddyfeisiau orthotig a ddarperir gynnwys:

  • Mewn-wadnau
  • Esgidiau presgripsiwn
  • Orthosis Pigwrn Troed (AFO) stoc/personol (ar gyfer rheoli materion niwrolegol)
  • Bresys pen-glin / Orthosis Pen-glin Pigwrn Troed (KAFO) (dyfeisiau coes llawn)
  • Bres clun (rheoli datgymalu)
  • Bres asgwrn cefn (rheoli toriad)
  • Dyfeisiau ysgwydd a braich uchaf (rheoli safle)
  • Amddiffyniad pen sylfaenol (hunan-niweidio pediatrig / cwympiadau)
  • Cyngor hunanreoli – gellir cynnig arweiniad ac atgyfeiriad yn ôl y gofyn

Sylwer.  Canllaw yn unig yw’r rhestr hon, ac mae trefniadau lleol ar waith lle gall gwasanaethau eraill ddarparu rhai dyfeisiau orthotig fel y bo’n briodol.

Gallwch gael rhagor o wybodaeth am orthoteg drwy ddilyn y corff proffesiynol, Cymdeithas Prosthetyddion ac Orthotyddion Prydain

I gael gwybod am reolau orthotyddion ac i wirio bod eich orthotydd wedi cofrestru, ewch i wefan y Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal (CPIG)

Gwybodaeth Podiatreg ac Orthoteg Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan

Gwybodaeth

Menu