Rydym wedi cynllunio dull tri cham i’ch helpu i ddeall eich opsiynau a’ch annog i feddwl am yr holl bethau a allai fod yn effeithio ar eich problem.

Uniadau Hyblyg

Nid yw bod yn hyblyg o reidrwydd yn broblem. Mae pobl fel gymnastwyr yn gallu bod yn hyblyg iawn, a does ganddyn nhw ddim problemau o ganlyniad.  Fodd bynnag, pan maent yn tyfu, gall cymalau hyblyg weithiau ei gwneud hi’n anodd i rai plant ddysgu sgiliau newydd a chadw cydbwysedd, ac achosi poen.

Os gall cymalau’ch plentyn symud mwy nag sy’n arferol heb boen, yna mae ganddo gymalau hyblyg (caiff ei alw’n hypersymudedd hefyd). Mae hyn oherwydd bod y meinwe meddal y tu mewn i’ch cymalau yn fwy ymestynnol nag arfer. Yn gyffredinol, nid yw hyn yn destun pryder. Yr unig beth i’w wneud yw cryfhau’r cyhyrau o gwmpas y cymalau i’w cadw’n gryf ac yn sefydlog.

Mae hefyd yn bwysig gwneud yn siŵr ei fod yn cael digon o weithgaredd corfforol bob dydd i helpu i gadw’r cyhyrau’n gryf.

Beth sy’n achosi hyblygrwydd uwch/hypersymudedd?

  • Gall redeg yn y teulu
  • Siâp yr esgyrn
  • Ligamentau llacach
  • Mae’n fwy cyffredin mewn merched na bechgyn

Ni fydd y rhan fwyaf o bobl yn cael unrhyw broblemau, ond gall rhai pobl brofi:

Poen a stiffrwydd yn y cyhyrau

Mae poenau’n tueddu i fod yn waeth ar ôl ymarfer corff – yn syth wedyn a’r diwrnod wedyn pan all y cyhyrau fod yn stiff a dolurus. O ganlyniad, mae plant a phobl ifanc sydd wedi eu heffeithio yn dechrau osgoi ymarfer corff.  Mae hyn yn gwneud eu cyhyrau a’u cyrff yn llai cryf. Wrth i’r cyhyrau yn y corff fynd yn llai cryf, gall plant a phobl ifanc ddatblygu symptomau sy’n gwaethygu.

Cymalau sy’n clicio

Weithiau gall plentyn/person ifanc brofi cymalau sy’n ‘clicio’ (gallant o bosib glicio dro ar ôl tro) ond nid oes angen poeni am hyn fel arfer.

Gorflinder

Os bydd plant yn dod yn anffit, byddan nhw’n blino’n gyflymach. Mae eu cyhyrau hefyd yn blino’n gyflymach ac yn rhoi llai o sefydlogrwydd i’r cymal hypersymudol, gan arwain at symudiadau gormodol yn y cymal, sy’n arwain at boen.

Beth gallaf ei wneud i’m helpu i/fy mhlentyn?

Y nod yw i bobl ifanc a theuluoedd gydnabod pwysigrwydd gwneud ymarfer corff rheolaidd er mwyn gwella ffyrfder a chryfder y cyhyrau. Bydd hyn yn helpu i gynnal sefydlogrwydd y cymalau a lleddfu symptomau hypersymudedd.

  • Mae ymarfer corff rheolaidd yn bwysig fel rhan o ffordd iach o fyw er mwyn cryfhau’r cyhyrau a galluogi gwell rheolaeth o gymalau hyblyg. Does dim rheswm pam na ddylai pobl sydd â chymalau hypersymudol ymarfer corff; yn wir mae’n rhan hanfodol o leihau symptomau hypersymudedd. Mae’n gwella cryfder a stamina
  • Mae nofio yn fuddiol iawn o ran gwella cryfder a ffitrwydd mewn amgylchedd sy’n galluogi symudiad rhydd, llawn ac yn cefnogi pwysau eich corff
  • Dylai ymarferion cryfhau gael eu gwneud yn rheolaidd, ond dechreuwch yn ysgafn i osgoi rhoi straen ar eich cymalau e.e. Beicio, Pilates neu Tai Chi – mae’r rhain yn enghreifftiau o weithgareddau effaith isel nad ydynt yn rhoi llawer o bwysau ar y cymalau
  • Cynnal pwysau iach – neu geisio dychwelyd at bwysau iach. Bydd pwysau isel yn gwneud cyhyrau’n wannach, tra bydd gorbwysedd yn rhoi mwy o straen ar y cymalau. Mae’r ddau eithaf yn tueddu i gynyddu symptomau
  • Gwisgo esgidiau cefnogol neu dreinyrs
  • Osgoi cario llyfrau trwm – Sicrhewch eich bod yn gwisgo bag cefn ar y ddwy ysgwydd ac yn storio llyfrau mewn locer yn hytrach na’u cario o gwmpas
  • Gall Gripiau Pensil wneud ysgrifennu’n fwy cyfforddus os ydych chi’n cael trafferth

Beth na ddylwn i ei wneud?

Defnyddio offer arbennig – Mae cadeiriau olwyn a baglau yn annefnyddiol iawn, gan y byddant yn tueddu i wneud y person yn wannach a’r sefyllfa’n waeth. 

Parhau â rhai chwaraeon neu ymarferion sy’n achosi poen – Mae’r rhain yn aml yn weithgareddau effaith uchel neu weithgareddau troi. Dylech chi roi’r gorau i’r gweithgareddau hyn nes eich bod yn gwybod achos eich poen. Gyda’r ymarferion cryfhau cywir efallai y bydd modd dychwelyd i’r gweithgareddau hyn ar adeg briodol heb gynyddu poen.

Osgoi plygu dros ddesg – defnyddiwch y gadair am gymorth gyda’r traed yn fflat ar y llawr

Osgoi W-eistedd – eistedd ar y llawr gyda’ch pen-ôl rhwng eich traed

Nid oes angen i bob plentyn sydd â phoen a chymalau hyblyg gael ei weld gan ffisiotherapydd, ond os nad ydych yn siŵr o achos poen eich plentyn neu

  • ei fod yn para am fwy na 4 wythnos
  • ei fod yn atal y plentyn rhag gwneud pethau
  • fod y plentyn yn teimlo’n sâl neu â thymheredd uchel (twymyn)
  • fod y plentyn yn colli llawer o bwysau
  • fod y boen yn gwaethygu
  • fod eich plentyn yn chwysu yn ystod y nos
  • fod y boen yn tarfu ar ei gwsg
  • fod ganddo binnau bach, gwendid neu ddiffyg teimlad
  • ei fod yn cwyno am anystwythder neu anhawster symud

yna gofynnwch am asesiad meddygol drwy feddyg teulu neu 111

Mae’r wybodaeth yng Ngham Dau a Cham Tri yn esbonio’r ffactorau a all effeithio ar ddifrifoldeb ac effaith symptomau cyhyrau, cymalau ac esgyrn.

Mae’r wybodaeth yng Ngham Dau a Cham Tri yn esbonio’r ffactorau a all effeithio ar ddifrifoldeb ac effaith symptomau cyhyrau, cymalau ac esgyrn.

Mae Cam Dau yn esbonio’r ffactorau a allai fod yn cyfrannu at eich sefyllfa.

Mae Cam Tri yn esbonio cyngor hunanreoli ar yr hyn y gallwch ei wneud i helpu eich hun.

Bydd dilyn y broses 3-cham yn eich helpu i wneud y gorau o’r wybodaeth ar y wefan hon.

Beth gellir ei wneud i’m helpu i/fy mhlentyn?

Efallai y bydd angen asesiad o’ch problem a’ch triniaeth os nad yw’r cyngor hunanreoli yng Ngham Tri yn helpu.  Ystyriwch ofyn am gymorth pellach. 

Os ydych chi’n dal i bryderu am y symptomau rydych chi’n eu profi ac yn ansicr beth i’w wneud cysylltwch â’ch meddyg teulu neu ffoniwch GIG Cymru 111.

Gwybodaeth
Menu