Mae ffisiotherapyddion yn helpu pobl sy’n cael eu heffeithio gan salwch, anaf neu anabledd. Mae ffisiotherapyddion yn defnyddio ymarfer corff a therapi llaw ochr yn ochr â chyngor ac addysg i helpu pobl i gynnal a gwella eu hiechyd a gwneud y mwyaf o’u hannibyniaeth.
Mae ffisiotherapyddion yn defnyddio dull holistig o ofalu. Mae hyn yn golygu y byddant yn siarad â chi am unrhyw broblemau corfforol sydd gennych a’ch lles emosiynol, seicolegol a chymdeithasol. Y rhan bwysicaf o ffisiotherapi yw eich cyfranogiad chi yn y cynllun triniaeth.
Mae Ffisiotherapydd a Therapydd Corfforol yn deitlau gwarchodedig yn y DU. Mae hyn yn golygu mai dim ond pobl sydd wedi cwblhau hyfforddiant penodol (gradd) a chofrestru gyda’r Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal sy’n gallu galw eu hunain yn ffisiotherapydd. Mae ffisiotherapyddion yn weithwyr proffesiynol annibynnol. Mae hyn yn golygu bod ffisiotherapyddion yn gwneud eu diagnosis clinigol a’u dewisiadau triniaeth briodol eu hunain.
Gwybodaeth a dolenni ychwanegol
I gael gwybod mwy am ffisiotherapi a ffisiotherapyddion, ewch i wefan y Gymdeithas Siartredig Ffisiotherapi
I gael gwybod am reolau ffisiotherapyddion ac i wirio bod eich ffisiotherapydd wedi cofrestru, ewch i wefan y Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal (CPIG)
Gwybodaeth Ffisiotherapi Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan
ENGLISH










