
Beth yw Cydsymudiad?
Cydsymudiad yw’r gallu i drefnu ac amseru cyfres o symudiadau mewn patrwm penodol sy’n arwain at y symudiad a ddymunir.
Mae plant yn datblygu eu sgiliau cydsymud trwy ddysgu i symud fel babi a thrwy chwarae wrth fynd yn hŷn. Gall plant a phobl ifanc sy’n cael trafferth cydlynu eu symudiadau fod wedi wynebu rhwystrau i ddysgu’r sgiliau hyn yn ystod plentyndod cynnar.
Mae ‘na wahanol synwyryddion/derbynyddion yn ein cyrff sy’n synhwyro synhwyrau gwahanol ac yn eu hanfon fel negeseuon i’r ymennydd, fel cyffyrddiad, tymheredd, a phoen. Mae’r ymennydd yn dysgu sut i ymateb i’r negeseuon hyn gydag ymarfer. Gelwir y prif synnwyr sy’n ymwneud â chydsymudiad yn propriodderbyniaeth.
Propriodderbynwyr yw’r synwyryddion sy’n dweud wrth eich ymennydd ble mae eich corff, breichiau neu goesau, heb fod angen i chi edrych arnyn nhw. Os nad yw’ch plentyn wedi datblygu’r gallu i ymateb i’r teimlad hwn, am ba bynnag reswm, efallai y bydd yn cael trafferth gyda chydsymudiad.
Gweithgarwch corfforol cyffredinol ac ymarfer corff yw’r unig ffordd o wella cydlyniad symudiadau mawr fel rhedeg neu neidio. Y ffordd orau o wneud hyn yw dod o hyd i gamp neu weithgaredd rydych chi’n ei fwynhau. Daliwch i ymarfer, ac fe welwch chi welliant!
Beth gallaf ei wneud i’m helpu i/fy mhlentyn?
Mae’n bwysig annog lefelau gweithgarwch priodol mewn plant a phobl ifanc.
Y GIG
- Canllawiau gweithgarwch corfforol i blant (o dan 5 oed) – GIG (www.nhs.uk)
- Canllawiau gweithgarwch corfforol i blant a phobl ifanc – GIG (www.nhs.uk)
DoH
- Gweithgarwch corfforol ar gyfer y blynyddoedd cynnar: genedigaeth i 5 oed (publishing.service.gov.uk)
- Gweithgarwch corfforol i blant a phobl ifanc: 5 i 18 oed (publishing.service.gov.uk)Canllawiau gweithgarwch corfforol i blant anabl a phobl ifanc anabl gan Brif Swyddogion Meddygol y DU: ffeithlun (publishing.service.gov.uk)
Gall y gweithgareddau hyn helpu plentyn gyda’i ddatblygiad echddygol bras a helpu i atal cwympiadau a bagliadau.
- PDF Syniadau am Weithgareddau Dan Do– Gwybodaeth i Gleifion Gwasanaeth Ffisiotherapi Plant
- PDF Syniadau am Weithgareddau Awyr Agored – Gwybodaeth i Gleifion Gwasanaeth Ffisiotherapi Plant
Os na all plentyn neu berson ifanc gyflawni’r tasgau neu weithgareddau a ddisgwylir ar gyfer ei grŵp oedran, mae’n bwysig ymarfer y dasg sy’n peri problem gyda nhw a rhoi cymorth ychwanegol iddynt. Mae hefyd yn bwysig gwneud yn siŵr eu bod yn cael digon o weithgarwch corfforol bob dydd i helpu’r systemau cydsymudiad i wella.
Mae’r wybodaeth yng Ngham Dau a Cham Tri yn esbonio’r ffactorau a all effeithio ar ddifrifoldeb ac effaith symptomau cyhyrau, cymalau ac esgyrn.
Mae’r wybodaeth yng Ngham Dau a Cham Tri yn esbonio’r ffactorau a all effeithio ar ddifrifoldeb ac effaith symptomau cyhyrau, cymalau ac esgyrn.
Mae Cam Dau yn esbonio’r ffactorau a allai fod yn cyfrannu at eich sefyllfa.
Mae Cam Tri yn esbonio cyngor hunanreoli ar yr hyn y gallwch ei wneud i helpu eich hun.
Bydd dilyn y broses 3-cham yn eich helpu i wneud y gorau o’r wybodaeth ar y wefan hon.
Dysgwch fwy am:
Beth gellir ei wneud i’m helpu i/fy mhlentyn?
Efallai y bydd angen asesiad o’ch problem a’ch triniaeth os nad yw’r cyngor hunanreoli yng Ngham Tri yn helpu. Ystyriwch ofyn am gymorth pellach.
Os ydych chi’n dal i bryderu am y symptomau rydych chi’n eu profi ac yn ansicr beth i’w wneud cysylltwch â’ch meddyg teulu neu ffoniwch GIG Cymru 111.
ENGLISH














