1. Hafan
  2. Lle mae’n brifo
  3. Poen Penelin

Poen Penelin

Mae poen penelin yn symptom cyffredin sy’n gysylltiedig â’r cyhyrau, cymalau ac esgyrn.

Rydym wedi cynllunio dull tri cham i’ch helpu i ddeall eich opsiynau a’ch annog i feddwl am yr holl bethau a allai fod yn effeithio ar eich problem.

Ble mae’n cael ei deimlo?

Teimlir poen penelin yn bennaf yn y benelin a blaen y fraich.

Sut gallai effeithio arnaf i/fy mhlentyn?

Gallai’r symptomau gael eu teimlo wrth wneud gweithgareddau syml o ddydd i ddydd fel codi neu afael mewn pethau.

Gall poen penelin effeithio ar ein gallu i gyflawni gweithgareddau bob dydd, gan gynnwys gwaith ysgol a hobïau fel tenis neu chwarae tig gyda’ch ffrindiau.

Pam mae’n digwydd?

Gall poen penelin ddechrau oherwydd anaf (er enghraifft cwympo ar y benelin), gan eich bod yn gwneud mwy nag yr ydych yn ei wneud fel arfer (er enghraifft, ysgrifennu llawer yn yr ysgol neu beintio) neu gall hefyd ddechrau am ddim rheswm amlwg.

A yw’n ddifrifol?

Er y gall y boen a achosir gan anaf neu waethygiad sydyn poen penelin fod yn ddifrifol i ddechrau, nid yw bob amser yn arwydd o anaf neu niwed difrifol.

Fodd bynnag:

Os ydych chi wedi cael cwymp neu anaf diweddar ac na allwch symud y benelin, neu ei bod yn boeth ac wedi chwyddo, mae angen i chi gael eich asesu ymhellach mewn adran mân anafiadau.

Os ydych chi’n teimlo’n sâl, ar fin chwydu neu’n dioddef o dwymyn ochr yn ochr â phoen penelin, gwnewch apwyntiad gyda’ch meddyg teulu.

A fydd yn gwella?

I’r rhan fwyaf o bobl, yr ateb yw ‘bydd’ gan y bydd y rhan fwyaf o symptomau’n lleddfu yn y 2 i 6 wythnos gyntaf mewn achos newydd o boen penelin neu os bydd poen penelin hirsefydlog yn gwaethygu’n sydyn.  Fodd bynnag, weithiau gall gymryd mwy o amser i ddychwelyd i normal ac i chi deimlo eich bod yn gallu ymdopi â’ch hoff weithgareddau a’ch gweithgareddau bob dydd, ac mae hynny’n iawn hefyd.

Bydd cymryd camau i ofalu am eich iechyd corfforol a meddyliol yn rhoi’r cyfle gorau i chi wella’n llwyddiannus.

Beth gallaf ei wneud i’m helpu i/fy mhlentyn?

Mae rhai o’r pethau pwysicaf y gallwch eu gwneud i helpu eich poen penelin yn gysylltiedig â’ch dewisiadau ffordd o fyw a’ch iechyd cyffredinol.  Rydym wedi cynnwys rhai dolenni defnyddiol i’ch helpu.

Mae’r wybodaeth yng Ngham Dau a Cham Tri yn esbonio’r ffactorau a all effeithio ar ddifrifoldeb ac effaith symptomau cyhyrau, cymalau ac esgyrn.

Mae Cam Dau yn esbonio’r ffactorau a allai fod yn cyfrannu at eich sefyllfa.

Mae Cam Tri yn esbonio cyngor hunanreoli ar yr hyn y gallwch ei wneud i helpu eich hun.

Bydd dilyn y broses 3-cham yn eich helpu i wneud y gorau o’r wybodaeth ar y wefan hon.

Dysgwch fwy am:

Ochr yn ochr â’r cyngor hunanreoli yng Ngham Tri, gall rhai ymarferion cyffredinol ar gyfer poen ysgwydd fod yn ddefnyddiol i gefnogi’ch adferiad graddol i symudiad a gweithrediad arferol.

Ymarferion ysgafn i gadw’r benelin i symud a’i hatal rhag mynd yn stiff

Beth gellir ei wneud i’m helpu i/fy mhlentyn?

Efallai y bydd angen asesiad o’ch problem a’ch triniaeth os nad yw’r cyngor hunanreoli yng Ngham Tri yn helpu.  Ystyriwch ofyn am gymorth pellach. 

Os ydych chi’n dal i bryderu am y symptomau rydych chi’n eu profi ac yn ansicr beth i’w wneud cysylltwch â’ch meddyg teulu neu ffoniwch GIG Cymru 111.

Gwybodaeth
Menu