Mae poen pelfis acíwt yn ddolur cyffredinol neu boen siarp yn rhan isaf yr abdomen (ardal y bol)/ardal y pelfis.
Poen Pelfis
Ble mae’n cael ei deimlo?
Mae poen pelfis acíwt yn ddolur cyffredinol neu boen siarp yn rhan isaf yr abdomen (ardal y bol)/ardal y pelfis. Mae poen pelfis yn fwy cyffredin ymhlith plant uwchradd, ond gall fod yn bresennol mewn rhai iau, o 6 oed.
Sut gallai effeithio arnaf i/fy mhlentyn?
- Gallai’ch plentyn brofi’r boen fel teimlad mud neu siarp a gall fod yno’n gyson neu fynd a dod
- Gall y boen amrywio rhwng bod yn ysgafn, cymedrol a difrifol yn dibynnu ar beth sy’n achosi’r boen a hyd y boen
- Mae poen pelfis acíwt yn bresennol am lai na 3 mis
- Mae poen cronig, a elwir hefyd yn boen parhaus, yn bresennol am 6 mis neu fwy
- Pan fydd y boen yn parhau neu’n gwaethygu, bydd angen i chi ofyn am gyngor meddygol, yn enwedig pan fydd yn amharu ar weithgareddau dyddiol eich plentyn
- Gall y boen fod yn eithaf gofidus i’ch plentyn a chi’ch hun fel rhiant/gofalwr
Pam mae’n digwydd?
Gallai poen pelfis mewn benywod ifanc gael ei achosi’n gyffredin gan grampiau mislif a phroblemau gynaecolegol rheolaidd eraill. Os yw’ch plentyn yn dioddef o hyn a’ch bod yn bryderus, yna cysylltwch â’r meddyg teulu.
Gallai poen pelfis hefyd gael ei achosi gan haint ar y llwybr wrinol (haint UTI/pledren), rhwymedd, llid y pendics a phoen cyhyrau’r abdomen drwy or-ymarfer.
Hefyd, gall tyndra/anghydbwysedd yn y cyhyrau achosi problemau fel:
- Poen/llid ar y plât twf ar y pwynt lle mae’r cyhyrau cysylltu. Gall y ffemwr hir yn tyfu’n gyflymach na’r cyhyrau cyfagos dynnu ar y plât gan achosi poen mud yng nghesail y forddwyd neu flaen y glun, sy’n gwaethygu wrth wneud gweithgaredd, a gall achosi rhywfaint o chwyddo. Mae’n fwyaf cyffredin ymysg pobl ifanc 14-18 oed
- Os defnyddir grym cyhyr sydyn yn ystod gweithgareddau chwaraeon dwysedd uchel, gall darn bach o’r asgwrn lle mae’r cyhyrau’n cysylltu dorri i ffwrdd. Os nad yw’ch plentyn yn gallu rhoi pwysau arno a’i fod yn cael poen sydyn, ceisiwch gymorth meddygol
A yw’n ddifrifol?
Dylid ymchwilio’n llawn i boen bob amser er mwyn sicrhau nad oes cyflwr sylfaenol yn ei achosi. Gall poen pelfis sy’n datblygu’n sydyn gyda dwyster uchel fod yn argyfwng meddygol a bydd angen cymorth. Gofynnwch am gyngor meddygol gan y meddyg teulu neu cysylltwch â llinell gymorth 111 y GIG.
Cysylltwch â’r meddyg teulu hefyd os yw’ch plentyn:
- Yn dioddef o boen di-baid/cyson
- Yn cael poenau yn ystod y nos sydd ddim yn ymateb i boenladdwyr syml fel Calpol, parasetamol neu ibuprofen
- Yn cael poen abdomenol is difrifol sydyn ar yr ochr dde
- Yn gallu rhoi llai o bwysau arno, neu fod ei batrwm cerdded wedi newid yn sydyn
- Yn dangos gwahaniaethau rhwng y goes dde a chwith
- Yn dangos newidiadau mewn teimlad
- Yn dioddef o gochni neu chwyddo o gwmpas yr ardal
- Yn dangos newid sylweddol yn ei ymddygiad, fel anhawster cysgu neu ddigio
- Yn teimlo’n sâl, yn gyfoglyd neu’n cael twymyn ochr yn ochr â phoen pelfig.
- Yn dangos newidiadau o ran arferion y bledren neu’r coluddyn
- Wedi disgyn ar fôn asgwrn y cefn (neu’r asgwrn cynffon)
A fydd yn gwella?
Dylid ymchwilio’n llawn i boen pelfig bob amser er mwyn sicrhau nad oes cyflwr sylfaenol yn ei achosi. Ar ôl diystyru’r rhain, mae’n bwysig i’r problemau gael eu hasesu gan y gweithiwr iechyd proffesiynol perthnasol a rheoli’r boen pelfig i atal y symptomau hyn rhag dod yn gronig.
Beth gallaf ei wneud i’m helpu i/fy mhlentyn?
Os yw poen eich plentyn wedi cael ei asesu, ac nad oes unrhyw gyflwr wedi’i ddiagnosio, mae rhai pethau a allai helpu.
Mae rhai o’r pethau pwysicaf y gallwch eu gwneud i helpu poen eich plentyn yn gysylltiedig â’ch dewisiadau ffordd o fyw a’ch iechyd cyffredinol. Rydym wedi cynnwys rhai dolenni defnyddiol i’ch helpu.
Gall newid math yr ymarfer corff a’r gweithgareddau y mae eich plentyn yn eu gwneud, a faint ohonynt y mae’n eu gwneud, helpu. Gall llawer o weithgareddau effaith uchel fel rhedeg a neidio gynyddu poen.
Ymarfer corff:
Ceisiwch gael o leiaf 60 munud o ymarfer corff y dydd. Gall hyn helpu i fagu cryfder yng nghyhyrau’r cefn isaf a’r bol, cynyddu symudiad, atal cyhyrau rhag tynhau a chynnal pwysau iach. Mae ymarfer corff hefyd yn helpu i roi hwb i’r “hormonau hapus” (endorffinau), sy’n lleihau poen.
Osgo:
Gall eistedd mewn un safle yn rhy hir achosi poen ym môn asgwrn cefn eich plentyn. Wrth ddefnyddio technoleg, ceisiwch godi a symud bob 30 munud er mwyn osgoi aros mewn un safle yn rhy hir. Gall eistedd ar gadair neu glustog feddalach hefyd helpu i leihau’r boen.
Lleddfu poen:
Rhowch gynnig ar fath poeth neu becyn cynnes ar yr ardal boenus i helpu i ymlacio’r cyhyrau a lleddfu’r boen. Mae pecynnau iâ yn helpu i leihau poen rhai pobl hefyd.
Siaradwch â’ch meddyg teulu am gyngor ar gymryd poenladdwyr.
Mae’r wybodaeth yng Ngham Dau yn esbonio’r ffactorau a all effeithio ar ddifrifoldeb ac effaith symptomau cyhyrau, cymalau ac esgyrn.
Mae Cam Dau yn esbonio’r ffactorau a allai fod yn cyfrannu at eich sefyllfa.
Mae Cam Tri yn esbonio cyngor hunanreoli ar yr hyn y gallwch ei wneud i helpu eich hun.
Dysgwch fwy am:
Mae’r wefan Mislif Fi yn cynnwys llawer o wybodaeth i ferched a phobl ifanc sy’n cael mislif am sut mae poen yn effeithio ar bobl a syniadau ar sut i helpu.
Beth gellir ei wneud i’m helpu i/fy mhlentyn?
Efallai y bydd angen asesiad o’ch problem a’ch triniaeth os nad yw’r cyngor hunanreoli yng Ngham Tri yn helpu. Ystyriwch ofyn am gymorth pellach.
Os ydych chi’n dal i bryderu am y symptomau rydych chi’n eu profi ac yn ansicr beth i’w wneud cysylltwch â’ch meddyg teulu neu ffoniwch GIG Cymru 111.
ENGLISH















