1. Hafan
  2. Lle mae’n brifo
  3. Poen Clun

Poen Clun

Mae poen clun yn symptom cyffredin sy’n gysylltiedig â’r cyhyrau, cymalau ac esgyrn.

Rydym wedi cynllunio dull tri cham i’ch helpu i ddeall eich opsiynau a’ch annog i feddwl am yr holl bethau a allai fod yn effeithio ar eich problem.

Ble mae’n cael ei deimlo?

Mae poen clun yn boen y gellir ei deimlo yng nghesail y forddwyd, y pen͏-ôl, ochr allanol y glun (ger eich pocedi) ac i lawr cyhyr y glun ac yn y ben-glin.

Sut gallai effeithio arnaf i/fy mhlentyn?

  • Gallai’r symptomau gael eu teimlo wrth wneud gweithgareddau syml o ddydd i ddydd fel cerdded, croesi’ch coesau, rhedeg a neidio, rhoi esgidiau a sanau ymlaen, neu wrth newid cewyn plant bach
  • Gall poen clun effeithio ar ein gallu i wneud gweithgareddau dyddiol, gan gynnwys chwarae, ysgol a hobïau
  • Weithiau ni fydd problemau clun yn achosi llawer o boen i’ch plentyn, ond gallent newid sut mae’n cerdded ac yn symud. Gall plentyn ifanc roi’r gorau i gropian neu beidio â rhoi ei droed ar lawr wrth sefyll neu gael ei ddal wrth sefyll, efallai y bydd plentyn hŷn neu berson ifanc yn hercian neu’n cerdded gyda’i draed wedi’u troi allan ac yn ei chael hi’n anodd gwneud gweithgareddau fel dringo cyrbau neu risiau

Pam mae’n digwydd?

Gall poen clun ddechrau oherwydd anaf (er enghraifft bagliad neu ddigwyddiad ‘troi’), gan eich bod yn gwneud mwy nag yr ydych yn ei wneud fel arfer (er enghraifft, mwy o weithgarwch neu ymarfer corff), oherwydd twf a datblygiad, neu gall ddechrau am ddim rheswm amlwg.

A yw’n ddifrifol?

Er y gall poen clun fod yn ddifrifol i ddechrau, nid yw bob amser yn arwydd o anaf neu niwed difrifol.  Gallai fod yn anaf i feinwe meddal neu’n ddolur yn y cyhyrau yn sgil gweithgaredd neu oherwydd twf.

Ond bydd angen i’ch plentyn weld ei feddyg teulu:

  • Os yw’n hercian am fwy na chwpwl o ddiwrnodau
  • Os yw’n cael poenau yn ystod y nos sydd ddim yn ymateb i boenladdwyr syml fel Calpol, parasetamol neu ibuprofen
  • Os yw un neu’r ddwy goes yn byrhau, neu fod y glun yn troi tuag allan – mae hyn yn aml yn achosi i’r ben-glin a’r droed droi tuag allan
  • Os yw’r gluniau’n clicio wrth newid cewyn
  • Os oes ganddo blygiadau croen mewn gwahanol lefydd ar un goes o gymharu â’r llall
  • Os oes ganddo glun goch, boeth neu chwyddedig
  • Os yw ei ymddygiad wedi newid yn sylweddol, fel anhawster cysgu neu ddigio
  • Os yw’n teimlo’n sâl, yn gyfoglyd neu’n cael twymyn ochr yn ochr â phoen clun
  • Os oes ganddo wrin “lliw coca-cola” tywyll

Os yw eich plentyn wedi cael anaf diweddar i’r glun ac nad yw’n gallu rhoi pwysau arni, mae angen iddo gael ei asesu ymhellach mewn adran mân anafiadau.

A fydd yn gwella?

Os yw’ch plentyn wedi cael anaf meinwe meddal yna dylai setlo o fewn ychydig ddyddiau.  Os yw poen clun yn para’n hirach, gallai fod yn arwydd fod rhywbeth arall o’i le a dylech ofyn am asesiad neu gyngor pellach. Mae ychydig o gyflyrau cyffredin y gall plant eu profi sy’n gofyn am asesiad a thriniaeth barhaus.

Beth gallaf ei wneud i’m helpu i/fy mhlentyn?

Os yw poen clun eich plentyn wedi cael ei asesu, ac nad oes unrhyw gyflwr wedi’i ddiagnosio, mae rhai pethau a allai helpu.

Mae rhai o’r pethau pwysicaf y gallwch eu gwneud i helpu poen clun eich plentyn yn gysylltiedig â’ch dewisiadau ffordd o fyw a’ch iechyd cyffredinol.  Rydym wedi cynnwys rhai dolenni defnyddiol i’ch helpu.

Gall newid math yr ymarfer corff a’r gweithgareddau y mae eich plentyn yn eu gwneud, a faint ohonynt y mae’n eu gwneud, helpu. Gall llawer o weithgareddau effaith uchel fel rhedeg a neidio gynyddu poen yn y glun.

Bydd dilyn y broses 3-cham yn eich helpu i wneud y gorau o’r wybodaeth ar y wefan hon.

Mae’r wybodaeth yng Ngham Dau a Cham Tri yn esbonio’r ffactorau a all effeithio ar ddifrifoldeb ac effaith symptomau cyhyrau, cymalau ac esgyrn.

Mae Cam Dau yn esbonio’r ffactorau a allai fod yn cyfrannu at eich sefyllfa.

Mae Cam Tri yn esbonio cyngor hunanreoli ar yr hyn y gallwch ei wneud i helpu eich hun.

Bydd dilyn y broses 3-cham yn eich helpu i wneud y gorau o’r wybodaeth ar y wefan hon.

Dysgwch fwy am:

Ochr yn ochr â’r cyngor hunanreoli yng Ngham Tri, gall rhai ymarferion cyffredinol ar gyfer poen clun fod yn ddefnyddiol i gefnogi’ch adferiad graddol i symudiad a gweithrediad arferol.

Beth gellir ei wneud i’m helpu i/fy mhlentyn?

Efallai y bydd angen asesiad o’ch problem a’ch triniaeth os nad yw’r cyngor hunanreoli yng Ngham Tri yn helpu.  Ystyriwch ofyn am gymorth pellach. 

Os ydych chi’n dal i bryderu am y symptomau rydych chi’n eu profi ac yn ansicr beth i’w wneud cysylltwch â’ch meddyg teulu neu ffoniwch GIG Cymru 111.

Gwybodaeth
Menu