female physiotherapist with a clipboard walking along a coridoor

Addysg

Os ydyn ni’n symud, rydyn ni’n gwella ein cylchrediad, sy’n golygu mwy o waed i’r ymennydd.  Mae hyn nid yn unig yn cynorthwyo ein dysgu ond hefyd ein lefelau sylw ar gyfer dysgu. Mae rhai astudiaethau wedi darganfod bod y plant hynny sy’n symud yn amlach yn perfformio’n well yn academaidd. Mae symud hefyd yn ein helpu i ddysgu sut i ddatrys problemau, rheoli nifer o dasgau a’n helpu i gofio.

Emosiwn

Mae yna lawer o ddamcaniaethau sy’n dweud bod symud yn aml yn gwneud i ni deimlo’n well. Mae’n gallu gwella ein hwyliau a lleihau pryder.  Mae’n helpu i ryddhau’r hormonau hapus a llosgi’r cemegion mwy niweidiol hynny sydd ddim yn gwneud i ni deimlo’n dda. Gall ein helpu ni i gysgu’n well hefyd.

Cadw Pwysau Iach

Dros y blynyddoedd diwethaf, mae nifer y plant sy’n cael trafferth gyda’u pwysau wedi cynyddu.  Yn ôl y cyfrifiadau, mae 1 o bob 3 phlentyn yn y DU yn cario mwy o bwysau nag y byddem yn ei ddisgwyl ar gyfer ei oedran a’i daldra. Mae ymarfer corff nid yn unig yn helpu ein system fetabolaidd i weithio’n dda, ond hefyd yn ein helpu i deimlo’n well am ein hunain.

Little girl playing outdoors

Cryfder y Cyhyrau

Gall ymarfer corff arwain at gymaint o newidiadau cadarnhaol i’n cyhyrau. Mae nid yn unig yn helpu i’w gwneud nhw’n fwy ac yn gryfach ond hefyd yn eu galluogi i weithio am gyfnod hirach. Yn ogystal â hyn, mae ein cyhyrau’n dysgu sut i weithio orau trwy ailadrodd a chofio, mewn dolen glyfar gyda’r ymennydd. Mae hyn yn aml yn arwain at lai o risg o anaf a llai o boen.

Cryfder Esgyrn

Mae ein hesgyrn yn cael eu siapio fwyaf yn ein blynyddoedd iau – rydyn ni’n adeiladu ein banc esgyrn pan rydyn ni’n ifanc, a fydd yn ein hamddiffyn pan fyddwn ni’n hŷn. Mae iechyd esgyrn yn cael ei optimeiddio drwy oddef pwysau, bod y tu allan yn yr heulwen a bwyta diet iach amrywiol. Ein hesgyrn yw ein sgerbwd sydd wedyn yn gosod ein hosgo, sy’n ein galluogi i weithredu ac yn amddiffyn ein horganau. Felly mae’n hynod bwysig gofalu amdanyn nhw.

Treuliad

Os ydych chi’n eistedd i lawr am gyfnodau hir, yn enwedig ar ôl pryd o fwyd, rydych chi’n aml yn teimlo’n ddiegni ac anghyfforddus. Pan fyddwn yn symud, rydym yn helpu ein systemau treulio i weithredu, drwy ddefnyddio disgyrchiant a’r cyhyrau yn ein bol. Gall hyn helpu problemau fel rhwymedd ond hefyd mae’n ein galluogi i amsugno cymaint â phosib o faetholion o’n bwyd.

Swyddogaeth System y Corff

Yn union fel y system dreulio, mae symud yn helpu llawer o’n horganau i gadw’n iach – ein system resbiradol sy’n ein helpu i anadlu, a’n system gardiaidd sy’n sicrhau bod ein calon yn gallu pwmpio gwaed o amgylch ein corff, gan gadw ein systemau imiwnedd i weithio a phasio gwaed i’r holl organau hanfodol!!! Gall symud ychydig ac yn aml wneud gwahaniaeth mawr i’r systemau hyn.

Cydbwysedd a Chydsymudiad

Mae cyhyrau ac esgyrn cryf nid yn unig yn ein helpu i aros yn sefydlog ar ein traed, bod yn unionsyth a gweithredu, ond hefyd yn caniatáu i’r cysylltiad clyfar iawn rhwng ein hymennydd a’n cyrff ein galluogi i wneud tasgau mwy heriol fel sefyll ar 1 goes, dal pêl sy’n cael ei thaflu atom a chamu o amgylch rhwystr. Rydyn ni’n dysgu sut i wneud y rhain drwy symud ac ymarfer a phrofiad.

Datblygiad Sgiliau Cymdeithasol

Drwy gymryd rhan mewn ymarfer corff, rydyn ni nid yn unig yn dysgu sut mae ein cyrff yn gweithio ond hefyd sut i weithio gydag eraill.  Gallai hyn gynnwys dysgu sut i rannu, cymryd tro, gweithio fel rhan o dîm a chyfathrebu mewn llawer o ffyrdd gwahanol ag eraill.

Gweithgareddau Dychymyg a Chwarae

Mae ymarfer corff yn hwyl.  Mae ymarfer corff yn caniatáu i ni ddefnyddio ein dychymyg, archwilio, dysgu, chwarae a datblygu. Mae ‘na gymaint o wahanol fathau o ymarfer corff, does dim un ymarfer sy’n siwtio pawb felly mae’n llawer o hwyl rhoi cynnig ar heriau newydd i weld beth rydych chi’n ei fwynhau.

Os hoffech gael copi printiedig o’r wybodaeth uchod, defnyddiwch y ddolen hon

Canllawiau presennol y DU

Mae canllawiau i’ch helpu i ddeall faint o weithgarwch corfforol y dylem anelu ato i gael y canlyniad gorau.

Y GIG – Canllawiau gweithgarwch corfforol i blant (o dan 5 oed)

Y GIG – Canllawiau gweithgarwch corfforol i blant a phobl ifanc

Gweithgarwch corfforol ar gyfer y blynyddoedd cynnar (genedigaeth i 5 oed)

Gweithgaredd corfforol i blant a phobl ifanc (5-18 oed)

Canllawiau gweithgarwch corfforol ar gyfer plant anabl a phobl ifanc anabl

Gwybodaeth
Menu