I ddatblygu iechyd esgyrn, cymalau a chyhyrau da fel oedolyn, mae angen i chi ddechrau gydag iechyd esgyrn, cymalau a chyhyrau da fel plentyn. Bydd yr adran hon yn rhoi trosolwg i chi o sut mae plentyn yn datblygu, dealltwriaeth o’i allu i symud a sut mae’n dysgu cydbwysedd ac yn datblygu cryfder i wneud hyn.
Ar adegau, drwy gydol y camau hyn, efallai y bydd angen cymorth ar eich plentyn gyda’i sgiliau symud, gweithredol a chorfforol. Mae’n bwysig i blant symud a bod yn actif i ddatblygu strwythur esgyrn a chymalau da.
Datblygiad
I gael dealltwriaeth o sut mae plant yn datblygu, mae’r Gwasanaeth Ffisiotherapi Plant wedi datblygu’r fideo canlynol:
Nid yw pob plentyn yn datblygu yn yr un modd – mae’r canlynol yn dangos amrywiolion arferol o ran cerdded mewn plant.
Traed fflat
Canllaw ar draed fflat – Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan
Gwyliwch ein fideo ar draed fflat
Bysedd traed sy’n mewnblygu
Cerdded gyda’r bysedd traed yn pwyntio i mewn – Intoeing Gait
Gwyliwch ein fideo ar fysedd traed sy’n mewnblygu
Cerdded ar y Bysedd Traed
Gwyliwch ein fideo ar Gerdded ar y Bysedd Traed
Mwy o Wybodaeth
Mae’r cyngor a’r wybodaeth yma, a mwy, ar gael ar y gwefannau BIPAB canlynol:
Ffisiotherapi i Blant
Gwasanaethau gofal iechyd plant
ENGLISH












