Mae radioleg yn arbenigedd meddygol sy’n defnyddio delweddau clinigol i ddiagnosio a thrin clefydau o fewn y corff.

Mae yna wahanol fathau o ymchwiliadau/technegau radioleg yn cefnogi diagnosis o glefydau cyhyrysgerbydol.  Y rhain yw:

  • Pelydrau-X
  • Uwchsain
  • MRI – Delweddu Cyseinedd Magnetig
  • CT – Tomograffeg Gyfrifiadurol
  • Fflworosgopeg/sgrinio
  • Meddygaeth Niwclear

Nid oes angen delweddau clinigol ar bob problem gydag esgyrn, cyhyrau a chymalau i wneud diagnosis.  Mae sgil-effeithiau difrifol a all ddigwydd o ddelweddu meddygol mynych sy’n cynnwys ymbelydredd ïoneiddio ac, yn y rhan fwyaf o achosion, ni fydd delwedd glinigol yn newid y rheolaeth gychwynnol o glefyd neu broblem anhrawmatig.  Oherwydd hyn, mae gan y Bwrdd Iechyd ganllaw cyfeirio delweddu diagnostig i gynghori ac arwain y tîm gofal iechyd i archebu ymchwiliad Radioleg gydag arwyddion clinigol priodol.

Gwybodaeth

Menu