Mae pawb yn gwybod bod ysmygu’n gysylltiedig â chanser a chlefyd y galon ond nid oes llawer o bobl yn gwybod sut y gall effeithio ar eich esgyrn, eich cymalau a’ch cyhyrau.

Effaith ysmygu ar iechyd esgyrn, cymalau a chyhyrau

Gellir gwrthdroi llawer o’r effeithiau gwael ar iechyd cyhyrysgerbydol a achosir gan ysmygu a hyd yn oed eu hosgoi’n llwyr os gallwch leihau neu roi’r gorau i ysmygu.

Cofiwch fod ysmygu’n effeithio ar fwy na dim ond chi’ch hun – mae hefyd yn effeithio ar bobl o’ch cwmpas, gan gynnwys plant drwy ysmygu goddefol.

Mae ysmygu yn lleihau’r cyflenwad gwaed i esgyrn a meinweoedd meddal. Mae nicotin o fewn tybaco yn arafu cynhyrchiant celloedd sy’n ffurfio esgyrn ac yn lleihau faint o galsiwm creu esgyrn y gellir ei amsugno o’r hyn rydych chi’n ei fwyta. Mae ysmygu hefyd yn lleihau faint o ocsigen sydd ar gael i’ch cyhyrau yn ystod gweithgaredd.

Mae’r holl ffactorau hyn yn cyfuno i arwain at y risgiau canlynol

  • Mwy o berygl o ddatblygu osteoporosis
  • Mwy o risg o ddatblygu anafiadau i gyhyrau eich ysgwydd (y llawes troëdydd)
  • Risg uwch o ddatblygu poen cefn isaf ac arthritis gwynegol
  • Risg uwch o anafiadau gorddefnydd fel tendonitis
  • Risg uwch o dorri esgyrn neu straenio cyhyrau a thendonau

Ceisiwch Help

Os ydych chi’n ysmygu ac yr hoffech gael cymorth i roi’r gorau iddi, mae Gwasanaethau Helpa Fi i Stopio ar gael am ddim drwy ffonio 0800 085 2219 neu ymweld â www.helpafiistopio.cymru. Cymorth gan y GIG i roi’r gorau i ysmygu.

Gall unigolion hunangyfeirio i’r gwasanaeth, sy’n cynnwys cymorth un-i-un dros y ffôn, neu ymweld â fferyllfa gymunedol leol i gael cymorth.

Gwybodaeth am Fêpio

Bu cynnydd sylweddol yn nifer y plant a phobl ifanc sy’n defnyddio e-sigaréts yn y misoedd diwethaf. Mae’n hawdd cael gafael arnyn nhw’n aml ac maent yn cael eu gwneud yn ddeniadol i blant a phobl ifanc oherwydd y blasau sydd ar gael, y lliwiau llachar ar y cynhyrchion, a’r gost isel.

Er nad ydym yn gwybod yr holl risgiau sy’n gysylltiedig â defnyddio’r cynhyrchion hyn, bydd llawer yn cynnwys nicotin yr ydym yn gwybod ei fod yn niweidiol i ddatblygiad yr ymennydd ac yn gaethiwus iawn. Mae nifer fawr ar werth ar y farchnad ddu sy’n cynnig dewisiadau amgen rhatach, gyda llai o gyfyngiadau ar oedran ar gyfer gwerthu ac felly’n fwy deniadol a hygyrch i bobl ifanc.

Yn anffodus, nid yw llawer o’r cynhyrchion hyn yn bodloni safonau Prydeinig ac nid ydynt yn cael eu rheoleiddio, gallant gynnwys cynhyrchion niweidiol yn yr e-sigarét ei hun ac yn yr e-hylif. Mae yna hefyd effaith negyddol ar yr amgylchedd oherwydd y defnydd o blastigau a lithiwm yn y batri.

Os ydych chi’n poeni eich bod chi neu’ch plentyn yn gaeth i’r cynhyrchion hyn, gofynnwch am help proffesiynol drwy feddyg teulu neu nyrs iechyd yr ysgol.

Os hoffech gael copi printiedig o’r wybodaeth uchod, defnyddiwch y ddolen hon

Gwybodaeth
Menu