Mae arthritis a chyflyrau cyhyrysgerbydol (CYs) yn effeithio ar dros 17 miliwn o bobl ledled y DU. Mae anhwylderau cyhyrysgerbydol (ACYau) yn gyflyrau sy’n effeithio ar y nerfau, y tendonau, y cyhyrau a’r strwythurau ategol ac maent yn gysylltiedig â nifer o gyflyrau iechyd eraill.

Poen a symudedd cyfyngedig yw prif nodweddion ystod o gyflyrau cyhyrysgerbydol. Wrth i bobl fynd yn hŷn, mae’r risg o gael cyflwr CYs yn codi. Yn gyffredinol, mae menywod mewn mwy o berygl o gael problemau gyda’u hesgyrn, eu cyhyrau a’u cymalau na dynion. Mewn llawer o achosion, mae cyflyrau CYs yn ymyrryd â’n gallu i gyflawni gweithgareddau o ddydd i ddydd. Mae cysylltiad annatod rhwng eich iechyd cyhyrysgerbydol a’ch ffordd o fyw.

Sut rydym wedi cael ein hadeiladu

Mae’r system gyhyrysgerbydol yn cynnwys esgyrn, cyhyrau, cymalau, cartilag, tendonau a ligamentau. Mae’r esgyrn yn darparu fframwaith i’r corff, gan roi iddo siâp a chefnogaeth.  Mae esgyrn hefyd yn amddiffyn yr organau mewnol fel yr ysgyfaint a’r afu.  Mae cyhyrau’n ei gwneud hi’n bosibl symud rhan o’r corff. Mae cymalau, cartilag, tendonau a ligamentau’n cysylltu’r esgyrn a’r cyhyrau yn y corff gyda’i gilydd.

Mae system gyhyrysgerbydol plentyn yn parhau i dyfu a datblygu drwy gydol plentyndod ac weithiau mae twf yn parhau i mewn i oedolaeth gynnar. Ceir platiau twf sy’n weithredol ym mhob asgwrn yn ystod y blynyddoedd tyfu. Mae’r platiau twf hyn yn dod yn weithredol ar wahanol adegau o ddatblygiad plentyn.

Sut rydym yn datblygu

Mae plant yn tyfu ac yn datblygu’n gyflym, yn enwedig yn eu pum mlynedd gyntaf ac yn ystod y glasoed. Y pedwar prif faes datblygu yw echddygol (corfforol), cyfathrebu ac iaith, gwybyddol (dealltwriaeth), a chymdeithasol ac emosiynol.

Ystyr datblygiad echddygol yw twf ffisegol a chryfhad esgyrn a chyhyrau plentyn a’i allu i symud. Gall datblygiad echddygol plentyn fod yn fanwl neu fras. Mae sgiliau echddygol manwl yn cynnwys symudiadau bach y dwylo, garddyrnau, bysedd, traed a bysedd traed. Mae’r symudiadau hyn yn helpu gyda sgiliau fel bwydo, codi gwrthrychau, gwisgo ac ysgrifennu. Mae sgiliau echddygol bras yn cynnwys datblygiad echddygol a rheoli cyhyrau, cydbwysedd a chydsymudiad, sydd eu hangen i alluogi plant i ddal eu pennau i fyny, eistedd a chropian, a cherdded, rhedeg, neidio a sgipio yn y pen draw.

Mae datblygiad echddygol yn bwysig trwy gydol bywyd cynnar plentyn, ac mae datblygiad corfforol yn gysylltiedig â meysydd datblygiadol eraill. Er enghraifft, os yw plentyn yn gallu cropian neu gerdded, gall symud i archwilio ei amgylchedd ffisegol, sy’n helpu ei ddatblygiad gwybyddol.

Wrth i blant dyfu a datblygu, maent yn cwrdd â cherrig milltir datblygiadol. Mae’r rhain fel rhestr wirio sy’n dangos i ni beth all plentyn cyffredin ei wneud ar oedran penodol, fodd bynnag, gall yr amseru ar gyfer cwrdd â phob carreg filltir amrywio’n fawr o un plentyn i’r nesaf. Mae cerrig milltir echddygol bras yn cynnwys rholio, eistedd, a cherdded.

Sut rydym yn symud

Mae patrwm cerdded plentyn yn datblygu wrth i blentyn dyfu. Dydyn nhw ddim yn datblygu patrwm cerdded oedolyn tan eu bod yn tua 8 neu 9 oed. Mae’n arferol gweld patrymau cerdded gwahanol a chwympiadau gyda phlant ifanc.

Pa weithgareddau rydym yn eu gwneud a sut rydym yn eu gwneud nhw

Mae plant yn datblygu eu sgiliau echddygol bras ar wahanol gyfraddau. I helpu plant i ddatblygu mae’n rhaid rhoi cyfleoedd iddyn nhw fod yn egnïol a phrofi symudiad. Mae llawer o weithgareddau y gallwch roi cynnig arnynt gyda’ch plentyn i’w helpu i ddatblygu.  I’r rhan fwyaf o blant, po fwyaf y byddant yn profi ac ymarfer symudiad, yr hawsaf y daw iddyn nhw.  Bydd rhai plant yn cymryd mwy o amser i allu gwneud rhai gweithgareddau, a gallai fod llawer o resymau gwahanol dros hyn.

Unwaith y gall plant symud o gwmpas yn annibynnol, dylid eu hannog i fod mor actif â phosibl mewn amgylchedd chwarae diogel, o dan oruchwyliaeth.

Beth rydym yn ei feddwl a sut rydym yn teimlo

Mae ein meddyliau a’n teimladau’n dylanwadu ar ein profiad o boen a sut rydym yn ymateb iddo.  Gall bod yn bryderus neu’n isel wneud i’n symptomau deimlo’n waeth.

Mae gweithgarwch corfforol yn dda ar gyfer lles meddyliol, adeiladu cyhyrau a chryfder esgyrn, datblygu cydbwysedd a chydsymudiad ac osgo da. Mae gweithgarwch corfforol hefyd yn annog plant i ddysgu am y byd o’u cwmpas a’u helpu i chwarae ag eraill, sydd mewn tro yn meithrin sgiliau iaith, hunanhyder ac annibyniaeth.

Pa mor heini ac iach rydyn ni

Er mwyn gallu gwneud yr hyn sy’n bwysig i ni, mae angen i ni fod yn ddigon cryf, hyblyg a ffit. Gall ein cwsg a’n hiechyd meddwl hefyd effeithio ar ba mor dda rydym yn ymateb i heriau.

Er mwyn i blant allu datblygu eu sgiliau symud a chwrdd â cherrig milltir, mae gweithgarwch corfforol, yn ogystal â maeth da, yn hanfodol.  O oedran cynnar dylid annog gweithgarwch corfforol.

Gwybodaeth
Menu