Mae 50-75% o’ch corff yn ddŵr, felly mae’n bwysig yfed digon a chadw’ch hun wedi hydradu! Gall peidio ag yfed digon o ddŵr/hylifau arwain at ddadhydradu.
Mae plant mewn mwy o risg o ddadhydradu nag oedolion. Mae hyn oherwydd, mewn perthynas â’u maint, mae cyfran uwch o’u croen yn colli chwys ac yn agored i wres. Hefyd, nid yw plant bob amser yn cydnabod eu bod yn sychedig, ac os nad ydyn nhw’n cael eu hannog a’u hatgoffa efallai y byddan nhw’n anghofio yfed. Yn ffodus, mae ambell ffordd o ddweud a yw’ch plentyn wedi’i hydradu.
Sut ydw i’n gwybod a yw fy mhlentyn wedi’i hydradu?
Os yw eich plentyn yn mynd i’r tŷ bach yn rheolaidd neu’n gwlychu ei gewyn, mae wedi’i hydradu. Gallwch hefyd gadw golwg am y symptomau cyffredin hyn o ddadhydradu:
- Pen tost
- Diffyg canolbwyntio
- Syched
- Gwefusau wedi cracio
- Ceg sych
- Rhwymedd
- Syrthni
- Wrin tywyll
Os yw’ch plentyn yn cael trafferth yfed digon o ddŵr, ceisiwch ddefnyddio gwahanol boteli neu gwpanau, newid y tymheredd neu ychwanegu ffrwyth/sgwas. Gall ffrwythau wedi rhewi fod yn ffordd hwyl o newid tymheredd a blas dŵr, a gwneud iddo edrych yn fwy apelgar!
Dylech anelu i yfed 4-6 diod y dydd os ydych chi o dan 8 oed, neu 6-8 diod y dydd os ydych chi’n 8 oed neu hŷn. Cofiwch, efallai y bydd angen i chi yfed mwy os ydych chi’n fwy actif neu os yw’n ddiwrnod poeth!
Plant iau, 12 mis neu hŷn
- Mae dŵr neu laeth yn cyfri fel hylif iach
- Argymhellir yfed tua 6-8 cwpaned (100-150ml y gwpan) bob dydd
- Cynigiwch ddiod gyda phob pryd bwyd ac amser diod a gwnewch yn siŵr fod diod ar gael rhwng yr amseroedd hyn
- Bydd plant yn cael hylif o fwydydd megis cawl a iogwrt
- Ni argymhellir yfed te, coffi a diodydd egni
- Mae sudd ffrwythau a smwddis hefyd yn cyfri at faint o hylif mae eich plentyn yn ei yfed, ond maent yn cynnwys siwgr rhydd, felly ceisiwch gyfyngu’r diodydd hyn i gyfanswm o 150ml y dydd a gyda phrydau bwyd yn unig
Useful Links
Diodydd a chwpanau ar gyfer babanod a phlant ifanc
Sefydliad Maetheg Prydain
BDA Cymdeithas Dietegwyr Prydain – Hylif
Alcohol
Efallai y bydd plant hŷn yn dangos diddordeb mewn alcohol ac mae’n bwysig eu bod yn ymwybodol o’r effeithiau negyddol y gall eu cael ar eu cyrff datblygol. Gall gwenwyn alcohol ddigwydd pan fydd gormod o alcohol yn cael ei yfed mewn un tro. Mae alcohol yn effeithio ar reolaeth o’r corff, sy’n cynyddu’r tebygolrwydd o anaf. Mae alcohol wedi cael ei gysylltu â chlefyd alcoholaidd yr afu, canserau, problemau gyda’r galon a hyd yn oed diabetes!
Cyffuriau ac Alcohol | Iechyd Meddwl | Canllaw i Rieni | Meddyliau Ifanc
Os hoffech gael copi printiedig o’r wybodaeth uchod, defnyddiwch y ddolen hon
ENGLISH










