Mae poen cefn isaf yn symptom cyffredin sy’n gysylltiedig â’r cyhyrau, cymalau ac esgyrn.
Poen Cefn
Ble mae’n cael ei deimlo?
Gellir teimlo poen cefn yn ganolog ar yr asgwrn cefn neu yn y cyhyrau y naill ochr i’r asgwrn cefn. Mae poen cefn yn gyffredin iawn a bydd y rhan fwyaf o bobl yn profi poen cefn rywbryd yn eu bywydau. Amcangyfrifir bod / y bydd hyd at 70% o blant rhwng 10 ac 17 oed yn profi poen cefn am gyfnodau byr rywbryd.
Sut gallai effeithio arnaf i/fy mhlentyn?
Gellir teimlo’r symptomau wrth wneud tasgau syml bob dydd, fel eistedd, ymarfer corff a chwarae.
Efallai y bydd yn gwneud eich plentyn yn llai egnïol, a bydd eisiau cerdded, rhedeg a symud o gwmpas llai. Gall hefyd ei wneud yn fwy dig neu’n dawelach nag arfer.
Pam mae’n digwydd?
Nid yw poen cefn o reidrwydd yn golygu bod problem. Mae’n debygol ei fod yn cael ei achosi gan:
- Osgo gwael
- Diffyg gweithgarwch
- Aros mewn un safle yn rhy hir
- Newidiadau mewn lefelau hormonau
- Bagiau ysgol trwm yn cael eu gwisgo’n anghywir
- Tyfu
- Defnyddio cyhyrau mewn ffordd wahanol neu wrth wneud camp neu weithgaredd newydd
A yw’n ddifrifol?
Nid yw cael poen cefn o reidrwydd yn golygu bod problem neu niwed.
Fodd bynnag, ewch i weld eich meddyg teulu os oes unrhyw un o’r canlynol yn berthnasol:
- Mae’r plentyn o dan 6 oed
- Mae’r boen yn para am fwy na 4 wythnos
- Mae’r boen yn atal y plentyn rhag gwneud pethau
- Mae’n teimlo’n sâl neu â thymheredd uchel (twymyn)
- Mae newidiadau i’w reolaeth o’r bledren neu’r coluddyn.
- Mae newidiadau i siâp ei asgwrn cefn
- Mae’n colli llawer o bwysau
- Mae’r boen yn gwaethygu
- Mae’n chwysu yn ystod y nos
- Mae’r boen yn tarfu ar ei gwsg
- Mae ganddo binnau bach, gwendid neu ddiffyg teimlad
- Mae’n cwyno am anystwythder neu anhawster symud
Gallwch hefyd siarad â’ch meddyg teulu, meddyg ymgynghorol neu weithiwr iechyd proffesiynol i gael atgyfeiriad at ffisiotherapi ar gyfer eich poen cefn.
Gofynnwch am gyngor meddygol brys gan eich meddyg teulu neu 111 os oes gennych:
- Broblemau newydd neu broblemau sy’n gwaethygu o ran dechrau neu stopio pasio wrin
- Problemau newydd neu broblemau sy’n gwaethygu o ran dechrau neu stopio agor y coluddyn (gan gynnwys baeddu eich hun)
- Diffyg teimlad newydd, diffyg teimlad sy’n gwaethygu neu deimlad newydd o amgylch yr organau rhywiol neu’r anws (y rectwm)
Beth gallaf ei wneud i’m helpu i/fy mhlentyn?
Ymarfer corff:
Ceisiwch gael o leiaf 60 munud o ymarfer corff y dydd. Gall hyn helpu i fagu cryfder yn y cyhyrau o gwmpas eich asgwrn cefn a chynyddu symudiad, gan atal cyhyrau tynn. Mae ymarfer corff hefyd yn helpu i roi hwb i’r “hormonau hapus” (endorffinau), sy’n gallu helpu gyda phoen.
Osog:
Gall aros mewn un safle yn rhy hir achosi poen cefn. Wrth ddefnyddio technoleg, ceisiwch godi a symud bob 30 munud er mwyn osgoi aros mewn un safle yn rhy hir.
Desg:
- Sicrhewch fod eich desg ar yr uchder cywir.
- Gwnewch yn siŵr fod eich penelinoedd ar ongl sgwâr
- Gwnewch yn siŵr fod eich desg yn agos atoch er mwyn osgoi pwyso
- Lle bo’n bosib, cadwch y ddwy droed yn wastad ar lawr.
Bagiau:
Mae’n bwysig cario eich bag ysgol ar y ddwy ysgwydd gyda’r strapiau wedi’u tynhau. Gweler ein canllawiau atodedig ar ddewis y bag ysgol cywir.
Lleddfu poen:
Rhowch gynnig ar fath poeth neu gawod i ymlacio’ch cyhyrau a lleddfu’r boen. Mae pecynnau iâ yn helpu i leihau poen rhai pobl hefyd.
Siaradwch â’ch meddyg teulu am gyngor ar gymryd poenladdwyr.
Mae’r wybodaeth yng Ngham Dau a Cham Tri yn esbonio’r ffactorau a all effeithio ar ddifrifoldeb ac effaith symptomau cyhyrau, cymalau ac esgyrn.
Mae Cam Dau yn esbonio’r ffactorau a allai fod yn cyfrannu at eich sefyllfa.
Mae Cam Tri yn esbonio cyngor hunanreoli ar yr hyn y gallwch ei wneud i helpu eich hun.
Bydd dilyn y broses 3-cham yn eich helpu i wneud y gorau o’r wybodaeth ar y wefan hon.
Dysgwch fwy am:
Os ydych am gael rhagor o wybodaeth am boen cefn isaf, ystyriwch ddarllen yr adnoddau dibynadwy hyn:
Beth gellir ei wneud i’m helpu i/fy mhlentyn?
Efallai y bydd angen asesiad o’ch problem a’ch triniaeth os nad yw’r cyngor hunanreoli yng Ngham Tri yn helpu. Ystyriwch ofyn am gymorth pellach.
Os ydych chi’n dal i bryderu am y symptomau rydych chi’n eu profi ac yn ansicr beth i’w wneud cysylltwch â’ch meddyg teulu neu ffoniwch GIG Cymru 111.
ENGLISH
















