Mae poen ysgwydd yn symptom cyffredin sy’n gysylltiedig â’r cyhyrau, cymalau ac esgyrn.
Poen Ysgwydd

Ble mae’n cael ei deimlo?
Teimlir poen ysgwydd yn bennaf yn yr ysgwydd a’r fraich uchaf. Gellir hefyd ei deimlo i fyny tuag at y gwddf.
Sut gallai effeithio arnaf i/fy mhlentyn?
- Gallai’r symptomau effeithio arnoch mewn gweithgareddau syml o ddydd i ddydd fel ymestyn uwchben lefel yr ysgwydd, golchi’ch gwallt a gwisgo/dadwisgo
- Gall poen ysgwydd effeithio ar ein gallu i wneud gweithgareddau dyddiol, gan gynnwys gweithgareddau yn yr ysgol a hobïau
- Ar adegau gall y boen deimlo’n ddifrifol ac i rai gall fod yn barhaus. Gall hyn effeithio ar ein lles cyffredinol a’n hiechyd meddwl
Pam mae’n digwydd?
Gall poen ysgwydd ddechrau oherwydd anaf (er enghraifft cwympo ar yr ysgwydd), gan eich bod yn gwneud mwy nag yr ydych yn ei wneud fel arfer (er enghraifft, gwneud mwy o weithgarwch neu ymarfer corff) neu gall hefyd ddechrau am ddim rheswm amlwg.
A yw’n ddifrifol?
Er y gall y boen a’r anabledd a achosir gan episod neu waethygiad sydyn poen ysgwydd fod yn ddifrifol i ddechrau, nid yw bob amser yn arwydd o anaf neu niwed difrifol.
Fodd bynnag:
Os ydych chi wedi cael cwymp neu anaf diweddar ac na allwch symud y fraich neu’r ysgwydd, mae angen i chi gael eich asesu ymhellach mewn adran mân anafiadau.
Os ydych chi’n teimlo’n sâl, ar fin chwydu neu’n dioddef o dwymyn gyda phoen ysgwydd, gwnewch apwyntiad gyda’ch meddyg teulu.
Os sylwch chi ar fwy o stiffrwydd yn eich ysgwydd, nad yw’n gysylltiedig â’r boen yn unig, gofynnwch am gymorth pellach neu cysylltwch â’ch meddyg teulu.
A fydd yn gwella?
I’r rhan fwyaf o bobl, yr ateb yw ‘bydd’ gan y bydd y rhan fwyaf o symptomau’n lleddfu yn y 2 i 6 wythnos gyntaf mewn achos newydd o boen ysgwydd neu os bydd poen ysgwydd hirsefydlog yn gwaethygu’n sydyn. Gall gymryd mwy o amser i rai pobl adfer ac mae rhai’n disgrifio problemau parhaus.
Bydd cymryd camau i ofalu am eich iechyd corfforol a meddyliol yn rhoi’r cyfle gorau i chi wella’n llwyddiannus.
Pethau i gadw golwg amdanynt
Gallai fod gwerth gweld eich meddyg teulu os bydd symptomau’n parhau ochr yn ochr ag un neu ragor o’r rhain:
- Poen barhaus neu boen yn y nos
- Colli pwysau sylweddol
- Poen mewn nifer o gymalau (fel y cluniau neu bengliniau)
- Pinnau bach / newid mewn teimlad i lawr y breichiau
- Gwendid yn y dwylo
- Newidiadau i’r croen
Os ydych wedi cael anaf i’ch ysgwydd a’i bod yn goch, poeth, hynod boenus, wedi chwyddo ac nad ydych yn gallu ei symud, mae angen i chi gael eich asesu ymhellach mewn adran mân anafiadau.
Efallai y bydd angen asesiad mwy brys ar rai newidiadau acíwt fel:
- pyliau poen/poen llosgi parhaus
- sensitifrwydd i gyffyrddiad/oerni
- chwyddo yn yr ardal boenus
- tymheredd croen anwadal
- newidiadau i liw a gwead y croen – gwyn + blotiog/coch/glas/dolurus, croen tenau neu streipiog, newidiadau i dyfiant y gwallt ac ewinedd
- sbasmau cyhyrau, cryndod, gwendid a cholli symudiad
- anystwythder, chwyddo a difrod i’r cymalau
Os oes gennych unrhyw bryderon, mae croeso i chi gysylltu ag 111 – byddant yn hapus i’ch cynghori ynghylch eich problem neu’ch cwestiwn.
Beth gallaf ei wneud i’m helpu i/fy mhlentyn?
Mae’n debygol bod eich osgo yn effeithio ar boen ysgwydd. Gall y newidiadau hyn helpu:
- Ceisiwch eistedd yn unionsyth (heb blygu drosodd) yn enwedig wrth chwarae gemau fideo
- Ceisiwch wneud yn siŵr eich bod yn cario bag cefn ar y ddwy ysgwydd, neu rhowch gynnig ar newid ysgwyddau os mai dim ond ar un ysgwydd y gallwch ei gario. Gwnewch yn siŵr nad yw’n rhy drwm, a’i fod ar uchder addas ar eich cefn (peidiwch â’i wisgo’n rhy isel). I gael mwy o wybodaeth am fagiau cefn darllenwch y daflen hon: Taflen rhieni – Dewis y bag ysgol cywir (Diweddarwyd 2016) | Cymdeithas y Ffisiotherapyddion Siartredig Pediatrig (csp.org.uk)
- Gall ymarferion fel gwthio llafnau’r ysgwydd at ei gilydd (naill ai wrth orwedd ar eich bol, eistedd yn unionsyth, neu eistedd gyda’r breichiau’n eich cefnogi ar y naill ochr) fod yn ddefnyddiol.
Gall plant hŷn/oedolion ifanc ddatblygu poen oherwydd symudiadau ailadroddus (yn enwedig athletwyr ifanc). Gellir trin hyn mewn ffordd debyg i oedolion. Mae’r llyfryn hwn yn cynnig rhai ymarferion hawdd i roi cynnig arnyn nhw.
Mae rhai o’r pethau pwysicaf y gallwch eu gwneud i helpu eich poen ysgwydd yn gysylltiedig â’ch dewisiadau ffordd o fyw a’ch iechyd cyffredinol. Rydym wedi cynnwys rhai dolenni defnyddiol i’ch helpu.
Mae’r wybodaeth yng Ngham Dau a Cham Tri yn esbonio’r ffactorau a all effeithio ar ddifrifoldeb ac effaith symptomau cyhyrau, cymalau ac esgyrn.
Mae Cam Dau yn esbonio’r ffactorau a allai fod yn cyfrannu at eich sefyllfa.
Mae Cam Tri yn esbonio cyngor hunanreoli ar yr hyn y gallwch ei wneud i helpu eich hun.
Bydd dilyn y broses 3-cham yn eich helpu i wneud y gorau o’r wybodaeth ar y wefan hon.
Dysgwch fwy am:
Beth gellir ei wneud i’m helpu i/fy mhlentyn?
Efallai y bydd angen asesiad o’ch problem a’ch triniaeth os nad yw’r cyngor hunanreoli yng Ngham Tri yn helpu. Ystyriwch ofyn am gymorth pellach.
Os ydych chi’n dal i bryderu am y symptomau rydych chi’n eu profi ac yn ansicr beth i’w wneud cysylltwch â’ch meddyg teulu neu ffoniwch GIG Cymru 111.
ENGLISH















