Mae poen yn deimlad annymunol ac yn brofiad emosiynol sy’n gysylltiedig â neu sy’n cynrychioli bygythiad canfyddedig neu anaf gwirioneddol.

Rheoli poen i blant a phobl ifanc

Gall plant, hyd yn oed plant ifanc, ddweud wrthym am boen os gofynnwn ni iddynt mewn ffordd maen nhw’n ei deall. Mae’n arferol i blant a phobl ifanc gael poen sy’n mynd a dod yn y goes, y bol neu’r pen. Yn union fel oedolion, weithiau gall plant brofi poen heb anaf. Gall poen gael ei achosi neu ei wneud yn waeth gan straen neu orbryder.

Mae Cam 2 yn rhoi rhagor o wybodaeth am y ffactorau a all effeithio ar bryderon am y cyhyrau, y cymalau a’r esgyrn ac mae Cam 3 yn cynnig syniadau ar beth all eich helpu.

Os ydych chi’n ansicr am yr hyn a allai fod yn achosi poen, gallwch ofyn am gymorth pellach.  Dylech ystyried gofyn am help os:

  • Yw’r boen yn golygu nad ydy’r plentyn yn gallu mynd i’r ysgol neu ei fod yn colli ysgol yn rheolaidd
  • Yw’r boen yn golygu bod y plentyn mewn perygl o frifo ei hun
  • Ydych chi’n poeni y gallai’r plentyn fod wedi achosi anaf i’w hun
  • Oes poenau llosgi neu byliau o boen yn gysylltiedig â newidiadau yn nhymheredd neu liw’r corff. Gallai hyn gynnwys newidiadau i liw’r croen neu chwysu gormodol neu groen sych/brech
  • Nad yw’r plentyn neu’r person ifanc yn gallu symud rhan o’i gorff am nad yw’n gallu gwneud i’w gyhyrau weithio. Mae hyn yn wahanol i beidio â bod eisiau symud rhan o’r corff oherwydd poen
  • Oes poen newydd gan blentyn sydd â salwch sy’n cyfyngu ar ei fywyd

Helpu plant a phobl ifanc sydd â phoen

Mae’n bwysig cadw eich corff i symud i atal eich cymalau a ligamentau rhag dechrau teimlo’n stiff a phoenus a’ch cyhyrau rhag colli cryfder.

Meddyginiaeth Poen (tabledi)

Ystyriwch gymryd meddyginiaethau poen dros-y-cownter syml a wnaed yn benodol ar gyfer plant fel ibuprofen  neu barasetamol o fewn y diwrnodau i wythnosau cyntaf o ymddangosiad symptomau neu anaf. Cymerwch y feddyginiaeth yn gyson yn unol â’r wybodaeth ar y bocs neu’r daflen feddyginiaeth. Dyma’r ffordd orau o gadw’n ddiogel a chael y budd llawn o feddyginiaeth poen dros-y-cownter. Gall hyn eich helpu i symud yn fwy cyfforddus, a all eich helpu i wella.

Gwybodaeth y GIG am roi poenladdwyr i blant 

Siaradwch â fferyllydd – Os ydych chi’n profi sgil-effeithiau neu os na allwch chi gymryd meddyginiaethau poen dros-y-cownter syml neu os nad ydyn nhw i’w gweld yn helpu, er eich bod wedi eu cymryd yn rheolaidd ac yn gyson fel y mae’r bocs a’r cyfarwyddiadau’n ei ddisgrifio, siaradwch â’ch fferyllydd lleol.

I gael rhagor o wybodaeth am Wasanaethau Fferylliaeth:

Mewn rhai achosion, efallai y bydd angen ystyried meddyginiaeth poen ar bresgripsiwn.  Fel arfer, dylai hyn fod ar ôl i chi roi cynnig ar yr opsiynau symlaf a diogelaf, a dim ond am yr amser byrraf posib. Ymgynghorwch â’ch fferyllydd neu’ch meddygfa leol os oes angen mwy o gyngor arnoch ar feddyginiaeth poen ar bresgripsiwn.

Poeth/Oer

Mae rhai pobl yn cael budd o ddefnyddio pecynnau cywasgu poeth neu oer am ryddhad byrdymor.  Nid oes tystiolaeth bod un yn well na’r llall, a gall ddod lawr i ddewis unigol.  Mae’n gyffredin defnyddio pecyn oer ar ôl anaf neu os yw’r symptomau’n gwaethygu yn dilyn gweithgaredd neu ymarfer corff.  Ond nid yw hyn yn gweithio i bawb.  Gallwch brynu pecynnau poeth/oer o fferyllfa, neu mae potel dŵr poeth neu fag o lysiau wedi rhewi wedi’u lapio mewn clwtyn neu dywel yn gweithio hefyd.

Symudiadau ac Ymarfer Corff

Mae swm priodol o symud ac ymarfer corff yn helpu i reoli poen. Efallai y bydd angen i chi addasu rhai symudiadau ac ymarfer yn dibynnu ar eich sefyllfa.  Er enghraifft, yn y dyddiau cynnar ar ôl ymddangosiad symptomau newydd, anaf neu’r ddau, efallai y byddwch am ymarfer y symudiadau sy’n teimlo’n fwy cyfforddus i ddechrau ac yn raddol adeiladu i symudiadau arferol.

Gellir defnyddio dulliau eraill i helpu i reoli poen. Gallwch roi cynnig ar y rhain yn dibynnu ar y math o boen a’r hyn sydd orau gennych chi neu’ch plentyn

  • Tynnu sylw oddi ar y boen – mae siarad, dweud stori, canu, lliwio, darllen llyfrau, chwythu swigod, gemau fideo yn ddefnyddiol iawn i dynnu’ch meddwl oddi ar boen
  • Chwarae – mae pobl yn ymlacio wrth chwarae.
  • Bod yng nghwmni rhywun arbennig – gall fod yn riant, ffrind arbennig neu degan arbennig i wneud i blentyn deimlo’n fwy diogel
  • Cysur drwy gyffwrdd – mae tystiolaeth fod cwtsio yn helpu gyda phoen ond gall hyn hefyd gynnwys mwytho, massage, neu siglo.
  • Gall anadlu dwfn, rheoledig ac ymlacio neu fyfyrio fod yn ddefnyddiol iawn i blant hŷn

Pethau sydd ddim yn helpu plant a phobl ifanc gyda’u poen:

  • Sicrwydd ffug – ceisiwch fod yn onest y gallai triniaeth neu anaf fod yn boenus neu’n ddolurus a siaradwch am bethau a allai helpu
  • Disgwyliadau uchel ynglŷn â pha mor ddewr y dylai plentyn fod – mae poen yn anodd i berson ifanc, ond os ydyn nhw’n teimlo nad ydyn nhw’n bod yn “ddigon dewr” neu fod rhywun yn dweud wrthynt “dim ond babanod sy’n crio”, mae pethau’n mynd yn waeth
  • Gormod o ffocws ar y boen – mae angen i chi gydnabod bod y boen yn real ond mae’n well canolbwyntio ar le mae poen yn gwella neu sut y gall plentyn symud yn well neu fod yn fwy annibynnol er gwaethaf unrhyw boen

Gwybodaeth ychwanegol

Deall Poen – Iechyd Plant

Beth yw Poen – i blant 5-8 oed

Gyda’n Gilydd yn Iachach – gwefan BIPAB am wybodaeth am iechyd plant a theuluoedd

Mae Tame the Beast yn fideo byr, animeiddiedig sy’n esbonio poen barhaus

I blant hŷn, mae mwy o wybodaeth am feddwlgarwch a gosod cyflymder i helpu i reoli poen ar ein tudalennau:

Mae Live Well With Pain | Living Well Despite Your Pain yn wefan i bobl sy’n byw gyda phoen.  Mae’n cynnwys gwybodaeth, adnoddau a llyfrynnau defnyddiol y gellir eu hargraffu.  Mae’r ’10 Cam’ yn eich helpu i ddysgu sgiliau i’ch arwain yn ôl at fyw’n dda, er gwaethaf poen.

GIG – Fideo myfyrdod amser gwely

BIPAB – Iechyd Meddwl Plant a’r Glasoed

Ioga Cosmic Kids

Os ydych chi’n ofalwr – Mae cefnogaeth i ofalwyr pobl â chyflyrau hirdymor drwy Carer Friendly

Pryder Poen – Magu plentyn gyda phoen cronig

Pain areas

Menu