Cyflyrau Cyhyrysgerbydol – CYs
Yn aml, caiff problemau gydag esgyrn, cymalau, nerfau a chyhyrau eu grwpio gyda’i gilydd a’u galw’n gyflyrau cyhyrysgerbydol. Yn aml, mae ‘cyhyrysgerbydol’ yn cael ei fyrhau i CYs yn Gymraeg neu MSK yn Saesneg.
Beth yw cyflwr cyhyrysgerbydol (CYs)?
- Cyfeirir at broblemau gyda rhannau symudol y corff, gan gynnwys esgyrn, cymalau, nerfau a chyhyrau fel cyflyrau cyhyrysgerbydol (CYs)
- Maen nhw’n aml i’w teimlo fel poen, anhawster symud a theimladau annymunol yn eich corff. Gallant effeithio ar eich gweithgareddau bob dydd, ysgol a’ch diddordebau, ac effeithio ar eich iechyd a’ch lles.
- Mae enghreifftiau’n cynnwys poen cefn, poen pen-glin, straenio neu sbreinio, bagliadau, cwympiadau a bympiau.
- I lawer o’r pryderon hyn, mae cyngor hunanreolaeth syml yn helpu ac yn bopeth sydd ei angen
Sut gall y wefan hon helpu?
Mae’r wybodaeth ar y wefan hon wedi’i chynllunio i ddarparu gwybodaeth a chyngor ar:
- sut y gallwch eich helpu eich hun / eich plentyn i reoli mân anafiadau
- deall beth allai fod yn cyfrannu at eich poen neu’ch problem eich hun/eich plentyn a’r hyn y gallech ei wneud am y peth
- pryd i ofyn am help ar gyfer eich poen chi/eich plentyn
ENGLISH













