Mae cael digon o gwsg da yn rhan hanfodol o ffordd iach a chytbwys o fyw. Mae cwsg gwael rheolaidd yn eich rhoi mewn perygl o gyflyrau meddygol difrifol, gan gynnwys gordewdra, clefyd y galon a diabetes – ac mae’n lleihau eich disgwyliad oes.
Mae’n amlwg bellach fod noson dda o gwsg yn hanfodol ar gyfer bywyd hir ac iach.
Mae cwsg gwael yn golygu nad yw ein corff yn gallu adfer ac atgyweirio ei hun. Mae symptomau fel poen yn cael eu gwneud yn waeth pan na chawn ddigon o gwsg o ansawdd da.
Pam mae cysgu’n dda i chi?
- Mae cwsg yn cael effeithiau pwysig ar dwf, yn enwedig yn gynnar mewn babandod
- Mae cwsg yn hybu imiwnedd
- Mae cwsg yn helpu i reoli pwysau iach
- Mae cwsg yn rhoi hwb i iechyd meddwl a lles – mae’n helpu eich hwyliau
- Mae cwsg yn eich gwneud yn fwy effro a sylwgar – mae’n eich helpu chi/eich plentyn i ganolbwyntio yn yr ysgol
- Mae cwsg yn rhoi hwb i ddysgu a’r cof
- Mae cwsg yn lleihau’r risg o ddiabetes a chlefyd y galon
- Mae cwsg yn cynyddu ffrwythlondeb
Gall llawer o bobl hefyd deimlo’n flinedig drwy’r amser. Gelwir hyn yn orflinder.
Rydyn ni i gyd yn teimlo’n flinedig o bryd i’w gilydd, ond os ydych chi/eich plentyn wedi blino drwy’r amser, byddwch chi eisiau gwybod pam, mae’n siŵr.
Gofynnwch i’ch hun a oes unrhyw rannau penodol o’ch bywyd yn eich blino – gall fod yn gysylltiedig â’r gwaith neu deulu. A wnaeth unrhyw ddigwyddiadau penodol sbarduno’r teimlad hwn? Gall ddeillio o ddigwyddiad bywyd mawr fel salwch aelod o’r teulu, straen ysgol/arholiadau neu golli rhywun rydych chi’n ei garu.
Byddai eich meddyg teulu yn edrych i weld a oes achos corfforol neu seicolegol i’ch blinder chi/eich plentyn ond mae nifer o bethau y gallech eu gwneud i’ch helpu eich hun/eich plenthyn. Efallai na fydd angen i chi weld eich meddyg teulu!
Ffyrdd o wella eich cwsg a threchu blinder
- Symud – mae ymarfer corff rheolaidd yn lleihau’r teimlad o flinder yn yr hirdymor
- Cynlluniwch eich diwrnod a gosodwch eich cyflymder i osgoi’r cylch gweithgarwch ‘ffynnu a methu’
- Mae trefn amser gwely reolaidd yn helpu eich corff chi/eich plentyn i baratoi ar gyfer cwsg
- Bwytewch brydau bwyd rheolaidd, iach a cheisiwch beidio bwyta yn rhy agos at amser gwely
- Peidiwch ag yfed diodydd â chaffein ynddynt
- Peidiwch â defnyddio technoleg yn rhy agos at amser gwely – yn ddelfrydol, ni ddylid defnyddio’r dyfeisiau hyn yn ystod yr oriau cyn cysgu a dylid eu symud o ystafell wely eich plentyn er mwyn creu amgylchedd y mae’ch plentyn yn ei gysylltu â chwsg
- Rhowch gynnig ar ymarfer meddwlgarwch neu ymlacio
Dolenni a gwybodaeth ychwanegol
I gael rhagor o awgrymiadau ar gael cwsg da, mae gan y gwefannau canlynol adnoddau a syniadau da iawn:
Faint o gwsg sydd ei angen ar blant? – GIG (www.nhs.uk)
Mae’r Children’s Sleep Charity yn cynnig cyngor i unrhyw un nad yw eu plentyn yn cysgu’n dda. Ffoniwch hwy ar 01302 751 416 neu ewch i’r wefan
Mae Contact (Contact a Family gynt) hefyd yn cynnig gwybodaeth, yn enwedig i blant ag anableddau. Gweler eu llyfryn “Helpu’ch plentyn i gysgu”
ENGLISH










