Mae plentyndod yn gyfnod pan mae twf cyson ac weithiau cyflym yn digwydd yn y corff a’r ymennydd. Er mwyn caniatáu i’r twf a’r datblygiad priodol ddigwydd mae angen i blentyn a pherson ifanc fod o fewn ystod pwysau iach.

Gallwn edrych ar BMI plentyn, sy’n cael ei gyfrifo drwy edrych ar faint mae’n pwyso ochr yn ochr â’i uchder, oedran a rhyw, ac fe’i rhoddir ar ffurf canradd. Mae pwysau iach yn amrywio rhwng y 3ydd a’r 91fed canradd.

Os yw plentyn neu berson ifanc naill ai o bwysau annigonol neu ormodol, gall effeithio’n negyddol ar ei dwf a’i ddatblygiad. Gall pwysau gormodol neu annigonol hefyd effeithio ar swyddogaeth eu hesgyrn, cyhyrau a chymalau a pha mor weithgar yw plentyn a sut mae’n symud.

Er mwyn i berson ifanc fod o fewn ystod pwysau iach, mae angen cael y cydbwysedd cywir rhwng yr egni y mae’n ei fwyta/yfed trwy fwyd a diod a’r egni y mae ei gorff yn ei ddefnyddio ar gyfer gweithgareddau, twf, dysgu a datblygiad.

Os ydych chi’n poeni nad yw pwysau eich plentyn o fewn yr ystod iach, siaradwch â’ch ymwelydd iechyd, meddyg teulu neu nyrs ysgol.

Os ydych chi’n poeni bod eich plentyn o bwysau annigonol ac yn credu bod ganddo anhwylder bwyta, siaradwch â’ch meddyg teulu am atgyfeiriad i’r tîm anhwylderau bwyta arbenigol. Mae’r tîm wedi’i leoli yn Ysbyty St Cadog ac yn rhan o’r Gwasanaeth Iechyd Meddwl Plant a’r Glasoed (CAMHS).

Os ydych chi’n poeni y gallai eich plentyn fod o bwysau gormodol, gweler y wybodaeth am y gwasanaeth Cyswllt

Os hoffech gael copi printiedig o’r wybodaeth uchod, defnyddiwch y ddolen hon

Dolenni Defnyddiol

Pwysau plant – Teuluoedd Iachach – GIG

Elusen anhwylderau bwyta’r DU – Beat

Anhwylderau a Phroblemau Bwyta | Canllaw i Rieni | YoungMinds

Gwybodaeth
Menu