Yn dilyn digwyddiad sy’n arwain at anaf meinwe meddal fel sbreinio ligament neu dynnu cyhyr, mae’n bwysig ein bod yn gadael i’r corff ddefnyddio ei strategaethau iacháu ei hun.
Rheoli Anafiadau Meinwe Meddal Acíwt
Yn dilyn anaf, os ydych chi neu’ch plentyn mewn poen ddifrifol, bod yr ardal wedi chwyddo, neu os na ellir ei symud neu roi pwysau arni, dylech ymweld ag uned mân anafiadau.
Yn dilyn digwyddiad sy’n arwain at anaf meinwe meddal fel sbreinio ligament neu dynnu cyhyr, mae’n bwysig ein bod yn gadael i’r corff ddefnyddio ei strategaethau iacháu ei hun. Ni ddylem gymryd unrhyw feddyginiaethau gwrthlidiol am y deuddydd cyntaf oherwydd byddan nhw’n arafu’r broses sy’n helpu ein corff i wella. Gall iâ hefyd arafu hyn yn ystod y deuddydd cyntaf.
Mae angen i ni amddiffyn yr anaf am y 1-3 diwrnod cyntaf trwy beidio â rhoi gormod o bwysau arno, peidio â’i symud yn ormodol na gwneud unrhyw beth sy’n achosi llawer o boen. Er hynny, mae’n bwysig peidio â’i orffwys gormod.
Gallwch godi’r rhan o’r corff sydd wedi anafu i fyny fel ei bod yn uwch na’ch calon, bydd hyn yn helpu i reoli unrhyw chwyddo. Gallwch hefyd ddefnyddio rhwymyn tiwbaidd neu dâp i wasgu’r anaf yn ysgafn a all hefyd helpu gyda chwyddo a gwneud iddo deimlo’n fwy cyfforddus.
Os yw’n boenus gallwch siarad â’r fferyllydd am gymryd poenladdwyr fel parasetamol.
Ar ôl ychydig ddyddiau dylai fod yn llai poenus ac yn haws i’w symud a’i defnyddio. Mae’n bwysig ar y cam hwn i’w defnyddio fel yr arfer gymaint â phosib.
Gall anafiadau meinwe meddal gymryd ychydig wythnosau i wella’n llawn ac i’r rhan o’r corff ddychwelyd i normal.
Gweithgarwch ac Ymarfer Corff
Mae cadw’n heini a gwneud ymarfer corff rheolaidd yn rhan hanfodol o’ch adferiad a’ch rheolaeth hirdymor.
Gall bod yn gorfforol actif drwy gydol eich adferiad ac ar ôl gwella:
- atal y broblem rhag digwydd eto
- cynnal eich lefelau ffitrwydd presennol – hyd yn oed os oes rhaid i chi addasu’r hyn a wnewch fel arfer, mae unrhyw weithgaredd yn well na dim
- cadw’ch cyhyrau a’ch cymalau eraill yn gryf ac yn hyblyg
Nid oes un gweithgaredd neu ymarfer corff yn well nag un arall. Mae rhai y mae’n well gennym neu rai sy’n gweddu’n well i ni. Hyd yn oed ar yr adeg hon pan mae mynediad at opsiynau ymarfer corff arferol yn gyfyngedig, mae llawer o bosibiliadau i fodloni eich anghenion gweithgarwch ac ymarfer corff (Ymarfer Corff – GIG (www.nhs.uk)) gan gynnwys fideos ar-lein o Stiwdio Ffitrwydd y GIG (Fideos ymarfer corff Stiwdio Ffitrwydd – GIG (www.nhs.uk))
Gallwch ddod o hyd i ganllawiau Gweithgarwch Corfforol pellach yma Canllawiau gweithgarwch corfforol: ffeithluniau – GOV.UK (www.gov.uk)
Os hoffech gael copi printiedig o’r wybodaeth uchod, defnyddiwch y ddolen hon
ENGLISH











