Os hoffech gymorth i helpu’ch plentyn i gyflawni pwysau iach, ewch i’r wefan rheoli pwysau plant am adnoddau a sut i gyfeirio at y tîm.
CONNECT yw’r gwasanaeth Rheoli Pwysau Plant a Phobl Ifanc Haen 3 cyntaf yng Nghymru, sy’n gwasanaethu ardal gyfan Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan. Rydym yn dîm o weithwyr proffesiynol sy’n gweithio gyda phlant a phobl ifanc a’u teuluoedd i’w helpu i reoli eu pwysau a gwella eu hiechyd corfforol ac emosiynol. Mae’r tîm yn cynnwys paediatregydd, dietegydd arbenigol, nyrsys arbenigol, seicolegwyr, ac ymarferydd therapi cynorthwyol.
Mae CONNECT yn gweithio’n uniongyrchol gyda’r plant a phobl ifanc a’u teuluoedd ac mae hefyd yn ymgysylltu â gweithwyr iechyd proffesiynol megis meddygon teulu, ymwelwyr iechyd, nyrsys ysgol ac athrawon i ddarparu gwasanaeth i’r unigolyn sy’n diwallu anghenion gofal y plant a phobl ifanc.
ENGLISH











