Gallwch ddefnyddio iâ i helpu i reoli poen yn dilyn anaf meddal i’r meinwe. Efallai na fydd plant bach yn hoffi defnyddio pecyn oer neu iâ ac efallai na fydd yn addas i’w defnyddio gyda phlant o bob oed.
Manteision Therapi Iâ
- Lleihau chwyddo
- Lleddfu poen
- Lleihau poen a gwingiadau yn y cyhyrau
- Mae’n eich helpu i gyflawni symudiadau a gweithgareddau arferol yn gynt
Gallwch chi ddefnyddio:
- Mae tywelion llaith sy’n cael eu storio yn yr oergell ac yna eu gosod dros yr ardal sy’n brifo yn well i blant iau
- Bag o bys wedi rhewi
- Ciwbiau iâ wedi’u malu mewn bag plastig
- Pecynnau jèl o’r rhewgell
Sut i’w ddefnyddio:
- Er mwyn osgoi niwed i’r croen lapiwch yr iâ mewn tywel cegin llaith cyn ei ddefnyddio
- Gadewch yr iâ yno am hyd at 10 munud 2-3 gwaith y dydd nes bod y symptomau’n lleddfu
- Rhowch y pecyn oer neu’r pecyn iâ ar ran o’r corff, peidiwch â rhoi na gorffwys rhan o’r corff ar y pecyn oer/iâ
Peidiwch â defnyddio pecynnau iâ:
- Ar groen sydd wedi torri neu friwiau
- Os oes gennych ddiffyg teimlad dros ardal o groen sy’n ddideimlad, yn enwedig os oes gennych Ddiabetes
- Dros rannau o’r corff sydd â chylchrediad gwael neu os ydych wedi cael diagnosis o glefyd Raynaud.
- Os ydych wedi cael diagnosis o orsensitifrwydd i oerfel.
- Os oes gennych haint
- Gyda phlentyn o dan 6 mis oed neu blentyn sydd ddim yn gallu symud oddi wrth y rhew ar ei ben ei hun neu gyfleu ei ddymuniadau – mae croen plant yn llawer mwy agored i oerni gan ei fod yn fwy bregus
ENGLISH











