Mae 50-75% o’ch corff yn ddŵr, felly mae’n bwysig yfed digon a chadw’ch hun wedi hydradu! Gall peidio ag yfed digon o ddŵr/hylifau arwain at ddadhydradu.

Mae plant mewn mwy o risg o ddadhydradu nag oedolion. Mae hyn oherwydd, mewn perthynas â’u maint, mae cyfran uwch o’u croen yn colli chwys ac yn agored i wres. Hefyd, nid yw plant bob amser yn cydnabod eu bod yn sychedig, ac os nad ydyn nhw’n cael eu hannog a’u hatgoffa efallai y byddan nhw’n anghofio yfed.  Yn ffodus, mae ambell ffordd o ddweud a yw’ch plentyn wedi’i hydradu.

Dylech anelu i yfed 4-6 diod y dydd os ydych chi o dan 8 oed, neu 6-8 diod y dydd os ydych chi’n 8 oed neu hŷn. Cofiwch, efallai y bydd angen i chi yfed mwy os ydych chi’n fwy actif neu os yw’n ddiwrnod poeth!

Plant iau, 12 mis neu hŷn

  • Mae dŵr neu laeth yn cyfri fel hylif iach
  • Argymhellir yfed tua 6-8 cwpaned (100-150ml y gwpan) bob dydd
  • Cynigiwch ddiod gyda phob pryd bwyd ac amser diod a gwnewch yn siŵr fod diod ar gael rhwng yr amseroedd hyn
  • Bydd plant yn cael hylif o fwydydd megis cawl a iogwrt
  • Ni argymhellir yfed te, coffi a diodydd egni
  • Mae sudd ffrwythau a smwddis hefyd yn cyfri at faint o hylif mae eich plentyn yn ei yfed, ond maent yn cynnwys siwgr rhydd, felly ceisiwch gyfyngu’r diodydd hyn i gyfanswm o 150ml y dydd a gyda phrydau bwyd yn unig

Useful Links

 

Diodydd a chwpanau ar gyfer babanod a phlant ifanc

Sefydliad Maetheg Prydain

BDA Cymdeithas Dietegwyr Prydain – Hylif

Cyffuriau ac Alcohol | Iechyd Meddwl | Canllaw i Rieni | Meddyliau Ifanc

Os hoffech gael copi printiedig o’r wybodaeth uchod, defnyddiwch y ddolen hon

Gwybodaeth
Menu