Gwybodaeth i Rieni a Gofalwyr

Mae’r droed a’r pigwrn wedi’u dylunio i gerdded ar dir gwastad, llethrau ac arwynebau anwastad, ac i ymdopi ag amrywiaeth o symudiadau a grymoedd yn ystod gweithgareddau. Mae ystum traed plentyn yn newid dros amser wrth iddo dyfu, ond yn gyffredinol mae’n well dewis esgidiau sy’n:

  • Ffitio’n dda
  • Amddiffynnol
  • Diogel

Cyngor Cyffredinol am Esgidiau Plant

Er mwyn annog twf traed iach a lleihau’r risg o ddatblygu problemau traed, byddem yn argymell gwirio’r canlynol wrth brynu esgidiau newydd:

Gwirio hyd

Os nad ydych yn siŵr o faint esgidiau eich plentyn, gallai fod yn ddefnyddiol mynd â’ch plentyn i siop sgidiau i fesur ei draed. Yn gyffredinol, gyda phlant ifanc sydd â meintiau esgidiau bach, gadewch ‘led bys bach’ wrth ben y bysedd traed. I blant sy’n newid i esgidiau oedolion, cynyddwch y lle i ‘led bys pwyntio’. Mae’r hyd ychwanegol hwn yn caniatáu i’r droed symud yn yr esgid heb roi pwysau ar flaen y bysedd traed.

Welsh translation of foot size

Gwirio lled a dyfnder

Unwaith y bydd yr esgid wedi’i gosod yn ddiogel ar droed eich plentyn, mae’n bwysig gwirio’r lled a’r dyfnder ar belen y droed a thros ben y bysedd traed. Dylai’r ffit fod yn ‘ddiddos’ ac yn ddiogel, heb ormod o dyndra.

Cau’n ddiogel

Er diogelwch a chysur, mae’n bwysig bod esgidiau’n cael eu cau’n ddiogel ar y droed, yn ddelfrydol gyda lasys neu strapiau felcro.

Esgidiau newydd

Wrth ‘dorri esgidiau newydd i mewn’, cynyddwch yr amser gwisgo yn raddol gan 30-60 munud ar y tro. Gwiriwch y traed am unrhyw arwyddion o bwysau annormal (pothelli, rhwbio neu gochni gormodol) nes eich bod yn hyderus eu bod yn ffitio’n dda.

Gwirio maint yn rheolaidd

Byddem yn argymell gwirio pob esgid bob 2 – 4 mis i weld a yw’n dal i ffitio.

Dewis yr esgid gywir yw un o’r pethau pwysicaf i’w gael yn gywir pan fydd gennych boen yn eich troed a’ch pigwrn. Maent fel sylfaeni adeilad – bydd popeth arall sy’n dilyn yn dibynnu ar ddefnyddio’r esgid gywir.

Oes unrhyw beth y dylwn ei osgoi?

Er mai crynodeb byr yn unig yw hwn, mae’n well osgoi:

  • Sodlau tenau iawn a allai adael i rywbeth miniog dyllu trwyddynt
  • Sgidiau sleidio nad ydynt yn cau’n ddiogel y mae’n rhaid i’r plentyn ‘gau’ ei fysedd traed i’w cadw ymlaen
  • Sgidiau sodlau uchel, gan fod gormod o bwysau ar flaen y droed
  • Sodlau sy’n culhau neu sodlau cul, gan fod y rhain yn cynnig cefnogaeth ansefydlog

Oes unrhyw gyngor ychwanegol ar esgidiau os oes gan fy mhlentyn bont droed isel?

Weithiau mae rhieni’n pryderu os oes gan eu plentyn bont droed isel. Mae ymchwil yn awgrymu nad oes angen mewnwadnau presgripsiwn i gynnal pont isel, oni bai bod y traed yn boenus. P’un a oes gan eich plentyn fewnwadnau ai peidio, mae’n bwysig bod gennych esgidiau amddiffynnol, diogel sy’n ffitio’n dda. Os oes gan eich plentyn draed poenus gyda phont isel, efallai y bydd yn briodol gofyn i’r meddyg teulu atgyfeirio eich plentyn at Bodiatrydd i’w asesu i weld a allai mewnwadnau fod o gymorth.

Oes unrhyw gyngor ychwanegol os ydw i’n gwisgo mewnwadnau presgripsiwn?

Os rhoddir mewnwadnau i chi gan Bodiatrydd neu Orthotydd, mae’n bwysig i chi fynd â’r rhain gyda chi wrth brynu esgidiau i sicrhau eu bod yn ffitio’n gywir yn yr esgid ac yn gadael lle i’r droed. Edrychwch ar eich plentyn yn cerdded yn yr esgidiau gyda mewnwadnau tra’ch bod yn y siop sgidiau, a gwnewch yn siŵr nad yw’r esgid yn llithro i fyny ac i lawr wrth y sawdl ac nad yw ei droed yn cael ei wthio allan o gefn yr esgid.

Beth ddylwn i ei wneud os oes gan fy mhlentyn droed pont uchel a/neu siâp troed llydan?

Os oes gan eich plentyn draed llydan iawn neu draed pont uchel, gallai fod yn ddefnyddiol dod o hyd i esgidiau lletach a dyfnach. Er nad ydym yn argymell cyflenwyr penodol, mae rhai brandiau’n cynnig esgidiau lletach a dyfnach (fel ‘Clarks’ neu ‘Geox’), a gallai treinyrs fod yn opsiwn haws.

Beth ddylwn i ei wneud os oes gan fy mhlentyn bigwrn ansefydlog?

I blant sydd â mwy o ansefydlogrwydd yn eu pigwrn, byddai’n ddefnyddiol canolbwyntio ar steil o esgid sy’n cau’n ddiogel, sydd â gwadn llydan sy’n cynnig sylfaen fwy sefydlog, ac sydd â deunydd cadarnach o gwmpas cefn yr esgid a thros y droed. Dylid osgoi esgidiau heb lawer o strwythur ac nad ydynt yn cau’n gadarn. Os yw’r plentyn wedi sbreinio pigwrn, gallai ystyried gwisgo esgid steil bŵt sy’n cynnig cefnogaeth ychwanegol yn uwch i fyny o gwmpas y pigwrn.

Beth ddylwn i ei wneud os na allaf gael esgidiau i ffitio?

Os nad yw’n bosibl dod o hyd i esgidiau sy’n ffitio’n iawn, efallai y byddwch yn elwa o gael eich cyfeirio at Orthotydd am gyngor. Gall orthotyddion archwilio’r traed i gynghori ar steiliau esgidiau manwerthu priodol neu, os yw’n amlwg na fydd esgidiau manwerthu yn addas, efallai y gallant archwilio opsiynau esgidiau presgripsiwn pe bai angen clinigol/meddygol.

Ac yn olaf…

Esgidiau sy’n ffitio’n wael yw’r achos mwyaf o boen yn y traed, felly cyn ceisio cyngor meddygol gwnewch yn siŵr fod esgidiau’ch plentyn i gyd yn ffitio’n dda. Os dewch chi o hyd i bâr penodol sy’n gwaethygu ei symptomau, ffeindiwch rai eraill. Dylai esgidiau sy’n ffitio’n dda a ffordd iach, actif o fyw roi’r cyfle gorau i draed eich plentyn ddatblygu.

Os hoffech gael copi printiedig o’r wybodaeth uchod, defnyddiwch y ddolen hon

Gwybodaeth
Menu