Mae poen garddwrn a llaw yn symptom cyffredin sy’n gysylltiedig â’r cyhyrau, cymalau ac esgyrn.
Poen Garddwrn a Llaw
Ble mae’n cael ei deimlo?
Mae poen garddwrn a llaw yn symptom cyffredin sy’n gysylltiedig â’r cyhyrau, cymalau ac esgyrn.
Sut gallai effeithio arnaf i/fy mhlentyn?
- Gall y symptomau gael eu teimlo wrth wneud gweithgareddau syml o ddydd i ddydd fel gafael mewn pethau neu roi pwysau ar yr arddwrn/llaw.
- Gall poen garddwrn a llaw effeithio ar ein gallu i wneud gweithgareddau dyddiol, gan gynnwys gwaith a hobïau.
- Ar adegau gall y boen deimlo’n ddifrifol ac i rai gall fod yn barhaus. Gall hyn effeithio ar ein lles cyffredinol a’n hiechyd meddwl.
Pam mae’n digwydd?
Gall poen garddwrn a llaw ddechrau oherwydd anaf (er enghraifft cwympo ar yr arddwrn/llaw), gan eich bod yn gwneud mwy nag yr ydych yn ei wneud fel arfer (er enghraifft, gwneud mwy o weithgarwch neu ymarfer corff) neu gall hefyd ddechrau am ddim rheswm amlwg.
Gall effeithio ar unrhyw un ohonom, ar unrhyw oedran.
A yw’n ddifrifol?
Er y gall y boen a’r anabledd a achosir gan episod neu waethygiad sydyn poen garddwrn a llaw fod yn ddifrifol i ddechrau, nid yw bob amser yn arwydd o anaf neu niwed difrifol.
Fodd bynnag, bydd angen i chi weld eich meddyg teulu:
- Os byddwch yn sylwi ar chwyddo a phoen difrifol i mewn i gymalau eich bysedd.
- Os ydych chi’n teimlo’n sâl, ar fin chwydu neu’n dioddef o dwymyn ochr yn ochr â phoen garddwrn a llaw.
Os ydych chi wedi cael cwymp neu anaf diweddar ac na allwch symud yr arddwrn a’r llaw, mae angen i chi gael eich asesu ymhellach mewn adran mân anafiadau os ydych chi’n byw yng Ngwent.
Os ydych chi’n dioddef o ddiffyg teimlad a/neu wendid yn y llaw, gwnewch apwyntiad gyda’ch meddyg teulu neu ystyriwch geisio cymorth pellach.
A fydd yn gwella?
I’r rhan fwyaf o bobl, yr ateb yw ‘bydd’ gan y bydd y rhan fwyaf o symptomau’n lleddfu yn y 2 i 6 wythnos gyntaf mewn achos newydd o boen garddwrn a llaw neu os bydd poen garddwrn a llaw hirsefydlog yn gwaethygu’n sydyn. I rai ohonom gall gymryd mwy o amser i deimlo ein bod ni’n gallu ymdopi â mwy o weithgareddau a’n bod ni’n dychwelyd i normal.
Bydd cymryd camau i ofalu am eich iechyd corfforol a meddyliol yn rhoi’r cyfle gorau i chi wella’n llwyddiannus.
Beth gallaf ei wneud i’m helpu i/fy mhlentyn?
Mae rhai o’r pethau pwysicaf y gallwch eu gwneud i helpu eich poen garddwrn neu law yn gysylltiedig â’ch dewisiadau ffordd o fyw a’ch iechyd cyffredinol. Rydym wedi cynnwys rhai dolenni defnyddiol i’ch helpu.
Mae’r wybodaeth yng Ngham Dau a Cham Tri yn esbonio’r ffactorau a all effeithio ar ddifrifoldeb ac effaith symptomau cyhyrau, cymalau ac esgyrn.
Mae Cam Dau yn esbonio’r ffactorau a allai fod yn cyfrannu at eich sefyllfa.
Mae Cam Tri yn esbonio cyngor hunanreoli ar yr hyn y gallwch ei wneud i helpu eich hun.
Bydd dilyn y broses 3-cham yn eich helpu i wneud y gorau o’r wybodaeth ar y wefan hon.
Dysgwch fwy am:
Ochr yn ochr â’r cyngor hunanreoli yng Ngham Tri, gall rhai ymarferion cyffredinol ar gyfer poen garddwrn a llaw fod yn ddefnyddiol i gefnogi’ch adferiad graddol i symudiad a gweithrediad arferol.
Beth gellir ei wneud i’m helpu i/fy mhlentyn?
Efallai y bydd angen asesiad o’ch problem a’ch triniaeth os nad yw’r cyngor hunanreoli yng Ngham Tri yn helpu. Ystyriwch ofyn am gymorth pellach.
Os ydych chi’n dal i bryderu am y symptomau rydych chi’n eu profi ac yn ansicr beth i’w wneud cysylltwch â’ch meddyg teulu neu ffoniwch GIG Cymru 111.
ENGLISH















