Gall gwres gynyddu llif y gwaed i ardal, a all helpu gyda phoen a gwneud i gyhyr deimlo’n fwy ystwyth ac yn haws ei symud.
Defnyddio gwres
Ni argymhellir defnyddio gwres ar anaf acíwt ond gall fod yn ddefnyddiol ar gyfer lleihau poen a gwella symudiad gyda phoen hirdymor.
Gallwch chi ddefnyddio:
Pawb:
- Dŵr cynnes – bath, twba twym, cawod
- Potel dŵr poeth
- Tywel gwlyb cynnes
Plant hŷn ac oedolion yn unig:
- Pecynnau microdon
- Ystafelloedd stêm/sawna
- Eli gwres
Defnyddiwch wres:
- I osgoi llosgi neu niweidio eich croen, sicrhewch eich bod yn lapio ffynhonnell y gwres mewn tywel
- Peidiwch â gadael plentyn ar ei ben ei hungyda phecyn poeth neu botel dŵr poeth neu mewn bath, twba twym neu gawod
- Byddwch yn ymwybodol o’r tymheredd – dylai’r gwres fod yn gyfforddus bob amser
- Gwiriwch y croen ar ôl 5 munud am unrhyw arwyddion o gochni, pothelli neu losgi
- Stopiwch ddefnyddio’r gwres ar ôl 20 munud ac arhoswch am awr cyn ei ddefnyddio eto, os yw’n gweithio
Peidiwch â defnyddio gwres:
- Dros groen sydd wedi torri neu glwyf, yn enwedig os oes gwaedu.
- Os oes gennych ddiffyg teimlad dros ardal o groen sy’n ddideimlad, yn enwedig os oes gennych Ddiabetes
- Ar rannau o’r corff lle gwyddoch fod gennych gylchrediad gwaed gwael.
- Os oes gennych haint
- Gyda phlentyn o dan 6 mis oed neu blentyn sydd ddim yn gallu symud oddi wrth y gwres ar ei ben ei hun neu gyfleu ei ddymuniadau – mae croen plant yn llawer mwy agored i newidiadau mewn tymheredd gan ei fod yn fwy bregus
- Gyda phlentyn sydd â thymheredd uchel neu dwymyn
ENGLISH











