1. Hafan
  2. Lle mae’n brifo
  3. Poen Pen-glin

Poen Pen-glin

Mae poen pen-glin yn symptom cyffredin sy’n gysylltiedig â’r cyhyrau, cymalau ac esgyrn

Rydym wedi cynllunio dull tri cham i’ch helpu i ddeall eich opsiynau a’ch annog i feddwl am yr holl bethau a allai fod yn effeithio ar eich problem.

Ble mae’n cael ei deimlo?

Mae poen pen-glin yn boen y gellir ei deimlo ym mlaen, cefn, rhan fewnol neu ran allanol pen-glin eich plentyn.   Ardaloedd cyffredin o boen pen-glin mewn plant a phobl ifanc yw o gwmpas neu ar asgwrn y ben-glin ac ym mhen uchaf asgwrn y grimog.

Sut gallai effeithio arnaf i/fy mhlentyn?

  • Yn aml, gellir teimlo poen wrth wneud gweithgareddau syml o ddydd i ddydd.  Mae rhai o’r gweithgareddau hyn yn cynnwys cerdded, sefyll, defnyddio grisiau, sgwatio, chwarae ac ymarfer corff
  • Gall poen pen-glin effeithio ar ein gallu i wneud gweithgareddau dyddiol, gan gynnwys chwarae, ysgol a hobïau
  • Gallai hefyd effeithio ar sut mae plentyn yn symud ac efallai na fydd am roi ei droed ar y llawr neu blygu neu sythu ei ben-glin

Pam mae’n digwydd?

Gall poen pen-glin ddechrau oherwydd anaf (er enghraifft bagliad neu ddigwyddiad ‘troi’), gan eich bod yn gwneud mwy nag yr ydych yn ei wneud fel arfer (er enghraifft, mwy o weithgarwch neu ymarfer corff), wrth dyfu a datblygu, neu gall ddechrau am ddim rheswm amlwg.

Mae poen pen-glin yn fwy cyffredin ymhlith plant hŷn a phobl ifanc yn eu harddegau na phlant ifanc ac yn aml gall gael ei achosi gan y twf sy’n digwydd ar yr oedran hwn a’r gweithgareddau y maent yn cymryd rhan ynddynt. Gall rhannau o asgwrn o’r enw platiau twf gael eu heffeithio gan y defnydd o’r cyhyrau sydd ynghlwm wrthynt. Weithiau pan mae plant yn tyfu, maen nhw’n defnyddio eu cyhyrau mewn ffordd wahanol sy’n golygu nad yw’r cyhyrau i gyd mor gryf neu mor hir ag y mae angen iddyn nhw fod. Gall hyn effeithio ar sut mae cymal y ben-glin ac asgwrn y ben-glin yn symud a gall achosi poen neu anesmwythyd.

A yw’n ddifrifol?

Nid yw poen pen-glin mewn plant a phobl ifanc yn aml yn ddifrifol a bydd yn gwella gydag amser, newid ym math y gweithgaredd a lefelau o ymarfer corff.

Ond bydd angen i’ch plentyn weld ei feddyg teulu: 

  • Os oes ganddo ben-glin poeth, poenus neu sydd wedi chwyddo’n sylweddol neu lwmp newydd ac anarferol ar ei ben-glin
  • Os yw’n teimlo’n sâl, yn gyfoglyd neu’n dioddef o dwymyn ochr yn ochr â phoen pen-glin
  • Os yw’n dioddef poen yn y nos
  • Os yw’n chwysu gyda’r nos
  • Os yw’n dioddef o anystwythder ac anhawster wrth symud y ben-glin yn enwedig yn y bore
  • Os yw’r boen yn gwaethygu neu’n gwella mewn cyfnod byr
  • Os, yn dilyn anaf i’r ben-glin, mae’r ben-glin yn ‘ildio’ neu’n teimlo’n ansefydlog neu os yw’n mynd yn sownd neu’n ‘dal’

Os yw eich plentyn wedi cael anaf diweddar i’r ben-glin ac nad yw’n gallu rhoi pwysau arni, mae angen iddo gael ei asesu ymhellach mewn adran mân anafiadau.

A fydd yn gwella?

I’r rhan fwyaf o bobl, gan gynnwys plant a phobl ifanc, yr ateb yw ‘bydd’ gan y bydd y rhan fwyaf o symptomau’n lleddfu yn y 2 i 6 wythnos gyntaf mewn achos newydd o boen pen-glin neu os bydd poen pen-glin hirsefydlog yn gwaethygu’n sydyn.   Gall gymryd mwy o amser i rai pobl adfer ac mae rhai’n disgrifio problemau parhaus.

Gall cymryd camau i ofalu am iechyd corfforol a meddyliol eich plentyn roi’r cyfle gorau iddo wella’n llwyddiannus.

Bydd y rhan fwyaf o anafiadau a phoenau pen-glin mewn plant a phobl ifanc yn gwella mewn cyfnod byr. Weithiau, os yw’r boen yn gysylltiedig â thwf, gall fynd a dod nes bod yr asgwrn yn stopio tyfu.

Beth gallaf ei wneud i’m helpu i/fy mhlentyn?

Mae rhai o’r pethau pwysicaf y gallwch eu gwneud i helpu eich poen pen-glin yn gysylltiedig â’ch dewisiadau ffordd o fyw a’ch iechyd cyffredinol.  Rydym wedi cynnwys rhai dolenni defnyddiol i’ch helpu.

Gall newid math yr ymarfer corff a’r gweithgareddau y mae eich plentyn yn eu gwneud, a faint ohonynt y mae’n eu gwneud, helpu. Gall llawer o weithgareddau effaith uchel fel rhedeg a neidio gynyddu poen yn y ben-glin.

Mae’r wybodaeth yng Ngham Dau a Cham Tri yn esbonio’r ffactorau a all effeithio ar ddifrifoldeb ac effaith symptomau cyhyrau, cymalau ac esgyrn.

Mae Cam Dau yn esbonio’r ffactorau a allai fod yn cyfrannu at eich sefyllfa.

Mae Cam Tri yn esbonio cyngor hunanreoli ar yr hyn y gallwch ei wneud i helpu eich hun.

Bydd dilyn y broses 3-cham yn eich helpu i wneud y gorau o’r wybodaeth ar y wefan hon.

Dysgwch fwy am:

Beth gellir ei wneud i’m helpu i/fy mhlentyn?

Efallai y bydd angen asesiad o’ch problem a’ch triniaeth os nad yw’r cyngor hunanreoli yng Ngham Tri yn helpu.  Ystyriwch ofyn am gymorth pellach. 

Os ydych chi’n dal i bryderu am y symptomau rydych chi’n eu profi ac yn ansicr beth i’w wneud cysylltwch â’ch meddyg teulu neu ffoniwch GIG Cymru 111.

Gwybodaeth
Menu